What are personal plans?

Beth yw cynlluniau personol?

My plan

A personal plan identifies a child or young person’s care needs, the types of services they will receive to meet those needs and who will provide the services and when.

The role of the child or young person in their personal care planning has long been recognised as important. It is prioritised as best practice and has been developing as a way forward for all future care planning.

However, the idea has evolved that children/young people requiring care should be involved in every stage of the planning process. This process needs to be a continuous cycle as needs can change. A personal plan meeting a child/young person’s holistic needs when implemented may not meet the requirements six months later.

In relation to health, holistic means seeing the whole child/young person, not just their physical health, but also their emotional, sexual, social, intellectual, mental and spiritual health. When we care for someone, we need to consider all these needs, which can be interlinked.

Mae cynllun personol yn nodi anghenion gofal plant a phobl ifanc, y mathau o wasanaethau y bydd yn eu cael er mwyn diwallu'r anghenion hynny, a phwy fydd yn darparu'r gwasanaethau a phryd.

Cydnabyddir ers tro bod rôl y plentyn neu’r person ifanc yn y gwaith o gynllunio ei ofal personol yn bwysig. Yr arfer gorau yw rhoi blaenoriaeth i rôl y plentyn/person ifanc , ac mae hyn wedi bod yn datblygu fel ffordd ymlaen ar gyfer pob math o waith cynllunio gofal yn y dyfodol.

Fodd bynnag, y syniad yw y dylai plant/pobl ifanc y mae angen gofal arnynt gael eu cynnwys ar bob cam o'r broses gynllunio. Mae angen i'r broses hon fod yn gylch parhaus, oherwydd gall anghenion newid. Efallai na fydd cynllun personol sy'n diwallu anghenion holistaidd plentyn/person ifanc pan gaiff ei roi ar waith yn bodloni'r gofynion chwe mis yn ddiweddarach.

Mewn perthynas ag iechyd, mae holistaidd yn golygu gweld y plentyn/person ifanc cyfan, nid dim ond ei iechyd corfforol, ond hefyd ei iechyd meddwl a'i iechyd emosiynol, rhywiol, cymdeithasol, deallusol ac ysbrydol. Pan fyddwn yn gofalu am rywun, bydd angen i ni ystyried yr holl ofynion hyn, a all fod yn gysylltiedig.

What are personal plans?

Beth yw cynlluniau personol?

Consider an individual you know and, without using names or personal details describe their needs holistically.

Meddyliwch am unigolyn rydych yn ei adnabod a, heb ddefnyddio enwau na manylion personol, disgrifiwch ei anghenion mewn modd holistaidd.