Introduction

Cyflwyniad

Meeting

In health and social care, it is vital that children and young people have the right care to meet their needs, wishes and preferences. It is important that procedures are followed to ensure that needs are met. Children and young people should be at the centre of this process, so they feel that they are actively involved in their own care. Good, effective care planning can ensure the criteria is met. Care and support packages should never be made for the ease or convenience of workers. This is where child-centred approaches apply — by putting the child/young person at the centre of every activity and decision made.

Ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae'n hollbwysig i blant a phobl ifanc gael y gofal cywir i ddiwallu eu hanghenion a bodloni eu dymuniadau a'u dewisiadau. Mae'n bwysig dilyn gweithdrefnau er mwyn sicrhau y caiff anghenion eu diwallu. Dylai plant a phobl ifanc fod wrth wraidd y broses hon, er mwyn iddynt deimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn eu gofal eu hunain. Gall gwaith cynllunio gofal da ac effeithiol sicrhau y caiff y meini prawf eu bodloni. Ni ddylai pecynnau gofal a chymorth byth gael eu creu er hwylustod na chyfleuster i weithwyr gofal. Dyma ble mae dulliau gweithredu plentyn-ganolog yn berthnasol, oherwydd eu bod yn rhoi'r plentyn/person ifanc wrth wraidd pob gweithgaredd a gynhelir a phob penderfyniad a wneir.

What are child-centred approaches?

Beth yw dulliau gweithredu plentyn-ganolog

Children hugging

A child-centred approach is being able to actively listen to children or young people and to support them to fulfil their aspirations. A co-productive approach, including parents and carers, can support the child to achieve their goals.

A child-centred approach should recognise the needs of the child or young person and the circumstances surrounding them that could impact on them achieving in life. Working together and being aware and respectful of what is important to each child or young person will inform practice of how best to support them.

Beliefs, values, abilities and preferences have to be taken into account when using child-centred approaches when planning to meet an individual’s needs.

Mae dull gweithredu plentyn-ganolog yn golygu gallu gwrando ar blant neu bobl ifanc a’u cefnogi nhw i gyflawni eu dyheadau. Gall dulliau cyd-gynhyrchu, gan gynnwys rhieni a gofalwyr, fod o gymorth i gefnogi plentyn/person ifanc i lwyddo.

Dylai dulliau gweithredu plentyn-ganolog gydnabod anghenion y plentyn/person ifanc a’u hamgylchiadau.

Bydd cydweithio a bod yn ymwybodol o’r hyn sy’n bwysig i bob plentyn yn ogystal â’i barchu i lywio’r arferion gorau i’w cefnogi.

Rhaid ystyried credoau, gwerthoedd a dewisiadau wrth ddefnyddio dulliau gweithredu plentyn-ganolog i gynllunio ar gyfer diwallu anghenion unigolyn.