The importance of developing positive relationships

Pwysigrwydd meithrin cydberthnasau cadarnhaol

1/1

paper cutout family

Developing a positive relationship with individuals, their families and carers in health and social care settings is important. This requires input from team members, colleagues and other professionals who are all stakeholders in meeting the care and support needs of individuals, their families and their carers. Partnership working through the development of positive relationships ensures a best practice holistic approach to care and support needs.

Positive relationships are based on trust, which is key to ensuring individuals are safeguarded and receive the care and support they need and request. If a relationship is not positive, individuals will not feel able to communicate effectively with staff and others, and not able to voice their needs, concerns or preferences.

Mae'n bwysig meithrin cydberthynas gadarnhaol ag unigolion, eu teuluoedd a'u gofalwyr mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Er mwyn gwneud hyn, mae angen mewnbwn gan aelodau'r tîm, cydweithwyr a gweithwyr proffesiynol eraill sydd i gyd yn rhanddeiliaid yn y gwaith o ddiwallu anghenion gofal a chymorth unigolion a'u teuluoedd a'u gofalwyr. Mae gweithio mewn partneriaeth drwy feithrin cydberthnasau cadarnhaol yn sicrhau bod anghenion gofal a chymorth yn cael eu diwallu mewn modd holistaidd gan ddilyn yr arfer gorau.

Mae cydberthnasau cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth, sy'n allweddol er mwyn sicrhau y caiff unigolion eu diogelu a'u bod yn derbyn y gofal a'r cymorth y maent yn gofyn amdanynt ac sydd eu hangen arnynt. Os nad yw cydberthynas yn un gadarnhaol, ni fydd unigolion yn teimlo y gallant gyfathrebu'n effeithiol â staff a phobl eraill, ac ni fyddant yn gallu cyfleu eu hanghenion, eu pryderon a'u dewisiadau.