What are personal plans?

Beth yw cynlluniau personol?

1/2

Care

Personal plans set out how the care of an individual will be provided. They are based on assessment information and care and support plans and will cover personal wishes, aspirations and care and support needs of the individual. The care and support plan is written by a social worker and from this the personal plans are developed by the health and social care workers involved with the day to day care of the individual.

The role of the individual in their personal care and support planning has long been recognised as important; it is prioritised as best practice and has been developing as a way forward for all future care and support planning.

A personal plan identifies an individual’s care needs, the types of services they will receive to meet those needs and who will provide the services and when.

However, since then the idea that individuals requiring care should be involved in every stage of the planning process has evolved. This process needs to be a continuous cycle, as needs can change. A personal plan meeting an individual’s holistic needs when implemented may not be meet the requirements six months later.

In relation to health, holistic means seeing the whole individual, not just their physical health, but also their emotional, sexual, social, intellectual, mental and spiritual health. When we care for someone, we need to consider all these needs, which can be interlinked.

Mae cynlluniau personol yn nodi sut bydd gofal unigolyn yn cael ei ddarparu. Maent yn seiliedig ar wybodaeth asesu a chynlluniau gofal a chymorth a byddan nhw'n cwmpasu dymuniadau, dyheadau ac anghenion gofal a chymorth personol yr unigolyn. Mae'r cynllun gofal a chymorth yn cael ei ysgrifennu gan weithiwr cymdeithasol ac o hyn mae'r cynlluniau personol yn cael eu datblygu gan y gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sy'n ymwneud â gofal yr unigolyn o ddydd i ddydd.

Cydnabyddir ers tro bod rôl yr unigolyn yn y gwaith o gynllunio ei ofal a chymorth personol yn bwysig. Yr arfer gorau yw rhoi blaenoriaeth i rôl yr unigolyn, ac mae hyn wedi bod yn datblygu fel ffordd ymlaen ar gyfer pob math o waith cynllunio gofal a chymorth yn y dyfodol.

Mae cynllun personol yn nodi anghenion gofal unigolyn, y mathau o wasanaethau y bydd yn eu cael er mwyn diwallu'r anghenion hynny, a phwy fydd yn darparu'r gwasanaethau a phryd.

Fodd bynnag, y syniad yw y dylai unigolion y mae angen gofal arnynt gael eu cynnwys ar bob cam o'r broses gynllunio. Mae angen i'r broses hon fod yn gylch parhaus, oherwydd gall anghenion newid. Efallai na fydd cynllun personol sy'n diwallu anghenion holistaidd unigolyn pan gaiff ei roi ar waith yn bodloni'r gofynion chwe mis yn ddiweddarach.

Mewn perthynas ag iechyd, mae holistaidd yn golygu gweld yr unigolyn cyfan, nid dim ond ei iechyd corfforol, ond hefyd ei iechyd meddwl a'i iechyd emosiynol, rhywiol, cymdeithasol, deallusol ac ysbrydol. Pan fyddwn yn gofalu am rywun, bydd angen i ni ystyried yr holl ofynion hyn, a all fod yn gysylltiedig.

What are personal plans?

Beth yw cynlluniau personol?

1/2

Consider an individual you know and, with their permission, describe their needs holistically.

Meddyliwch am unigolyn rydych yn ei adnabod a, gyda'i ganiatâd, disgrifiwch ei anghenion mewn modd holistaidd.