What does ‘behaving towards individuals with dignity and respect’ involve and why this is central to the role of the health and social care worker?

Beth mae trin unigolion ag urddas a pharch yn ei olygu a pham mae hyn yn ganolog i rôl gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol?

Holding hands

We all expect to be treated with dignity and respect, and individuals accessing health and social care services are no different.

Behaving with dignity and respect towards individuals involves respecting their views, their choices and decisions, not making assumptions about how they want to be treated and working with care and compassion.

Behaving towards individuals with dignity and respect ensures individuals who receive care and support are able to make choices about the care they receive. This includes decisions about their everyday care needs. If individuals cannot make choices, or are not supported to make choices, their care needs are not going to be met. Health and social workers must ensure they behave towards individuals with dignity and respect to ensure individuals feel valued, regarded as individuals with their own specific needs and can trust that their needs will be identified, listened to and met.

Rydym i gyd yn disgwyl cael ein trin ag urddas a pharch, ac nid yw unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn wahanol.

Mae ymddwyn ag urddas a pharch tuag at unigolion yn golygu parchu eu barn, eu dewisiadau a'u penderfyniadau, peidio â rhagdybio sut maent am gael eu trin, a gweithio mewn modd gofalgar a thosturiol.

Mae ymddwyn ag urddas a pharch tuag at unigolion yn sicrhau y gall unigolion sy'n cael gofal a chymorth wneud dewisiadau ynglŷn â'r gofal a roddir iddynt. Mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ynglŷn â'u hanghenion gofal beunyddiol. Os na all unigolion wneud dewisiadau, neu os na chânt eu cefnogi i wneud dewisiadau, ni chaiff eu hanghenion eu diwallu. Rhaid i weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol sicrhau eu bod yn ymddwyn ag urddas a pharch tuag at unigolion er mwyn sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, yn cael eu hystyried yn unigolion â'u hanghenion penodol eu hunain ac y gallant ymddiried y bydd eu hanghenion yn cael eu nodi, y bydd rhywun yn gwrando arnynt ac y byddant yn cael eu diwallu.