What is ‘co-production’?

Beth yw cyd-gynhyrchu?

Unity in diversity

Co-production is an approach whereby professionals and individuals work together as equal partners to plan their care, ensuring that they are key decision makers in the process, recognising that both have vital contributions to make in order to improve quality of life for the individual.

Co-production is value-driven and based on the principle that those who use a service are best placed to help design the service.

Dull gweithredu lle y bydd gweithwyr proffesiynol ac unigolion yn cydweithio fel partneriaid cyfartal i gynllunio eu gofal, gan sicrhau eu bod yn wneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y broses, a chydnabod bod gan y naill a'r llall gyfraniadau hollbwysig i'w gwneud er mwyn gwella ansawdd bywyd yr unigolyn yw cyd-gynhyrchu.

Ysgogir cyd-gynhyrchu gan werthoedd ac mae'n seiliedig ar yr egwyddor mai'r rhai sy'n defnyddio gwasanaeth sydd yn y sefyllfa orau i helpu i'w gynllunio.

What is ‘voice, choice and control’?

Beth yw llais, dewis a rheolaeth?

Giving adults voice, choice and control in health and social care is the approach staff in settings use to ensure individuals accessing services get personalised care and support.

Individuals need to have their views and experiences taken into account on an ongoing basis to have ‘choice’ and ‘control’ in decisions that affect them; they need to be seen as individuals and be given a ‘voice’ to express who they are and what they want.

To enable individuals to have voice, choice and control, interpersonal relationships need to be good between individuals, their relatives, carers and health and social care staff, and between the setting and wider health and social care system.

Rhoi llais, dewis a rheolaeth ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yw'r dull y bydd staff mewn lleoliadau yn ei ddefnyddio er mwyn sicrhau bod unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau yn cael gofal a chymorth wedi'u teilwra ar eu cyfer.

Mae angen i farn a phrofiadau unigolion gael eu hystyried yn barhaus er mwyn iddynt gael ‘dewis’ a ‘rheolaeth’ mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Mae angen iddynt gael eu gweld fel unigolion a chael ‘llais’ i fynegi pwy ydyn nhw a beth maen nhw am ei gael.

Er mwyn galluogi unigolion i gael llais, dewis a rheolaeth, mae angen cydberthnasau rhyngbersonol da rhwng unigolion, eu perthnasau, eu gofalwyr a staff iechyd a gofal cymdeithasol, a rhwng y lleoliad a'r system iechyd a gofal cymdeithasol ehangach.

What is ‘voice, choice and control’?

Watch the video below to learn more about choice and control.

Beth yw llais, dewis a rheolaeth?

Gwyliwch y fideo isod er mwyn dysgu mwy am ddewis a rheolaeth.

Choice and control

Dewis a rheolaeth