1/3
Yng Nghymru, mae nifer o ddeddfau, rheolau, rheoliadau, polisïau, dogfennau canllaw a chodau ymarfer statudol ar waith, ac mae pob un ohonynt yn hyrwyddo amrywiaeth, yn sicrhau cydraddoldeb ac yn rhoi terfyn ar wahaniaethu. Mae'r rhain ar waith er mwyn hyrwyddo hawl pawb i gael eu trin yn deg ac yn gyfartal, ni waeth beth yw'r gwahaniaethau rhyngddynt.
Y Ddeddf Gwasanaethau a Llesiant yw’r darn allweddol o ddeddfwriaeth sy’n sicrhau bod gwasanaethau yn gweithio mewn ffyrdd person-ganolog er mwyn cefnogi dulliau gweithredu seiliedig ar hawliau.
Er enghraifft, mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn cwmpasu llawer o wahanol fathau o wahaniaethu, gan gynnwys rhai na chânt eu cwmpasu gan ddeddfau eraill mewn perthynas â gwahaniaethu. Dim ond yn erbyn awdurdod cyhoeddus y gellir defnyddio hawliau o dan y Ddeddf; er enghraifft, yr heddlu neu gyngor lleol, ac nid cwmni preifat. Fodd bynnag, rhaid i benderfyniadau llysoedd ynghylch gwahaniaethu fel arfer ystyried yr hyn y mae'r Ddeddf Hawliau Dynol yn ei ddweud.
Er mwyn gwneud Prydain yn decach ac atgyfnerthu deddfau gwrthwahaniaethu, mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn rhoi canllawiau ymarferol dealladwy i gyflogwyr, darparwyr gwasanaethau a chyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau bod hawliau i driniaeth deg yn cael eu hyrwyddo i bawb.
1/3
Rhaid i bob unigolyn sy'n gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ddangos ei allu i roi amrywiaeth a chydraddoldeb ar waith, gan sicrhau mai'r unigolyn sydd wrth wraidd y gwasanaeth a ddarperir. Drwy ddilyn dull gweithredu seiliedig ar hawliau, bydd yn herio gwahaniaethu yn erbyn yr unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau gofal, eu teuluoedd, a chydweithwyr.
Hanfod dull gweithredu seiliedig ar hawliau yw ei fod yn unigryw i'r unigolyn sy'n cael ei gefnogi ac yn eiddo iddo. Ond sut mae deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol yn cefnogi hyn? Un enghraifft o hyn yw Deddf Galluedd Meddyliol 2005.
Efallai na all yr unigolyn wneud penderfyniadau drosto ei hun bob amser. Bwriad Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yw helpu ar adegau fel hyn. Daeth i rym ar 1 Ebrill 2007 ac mae'n gymwys i Gymru a Lloegr. Mae'r Ddeddf yn rhoi fframwaith statudol i unigolion na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain oherwydd anabledd meddyliol o bosibl. Mae'n hyrwyddo triniaeth deg i unigolion yr effeithir arnynt ac yn amddiffyn hawliau rhai o'r unigolion mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Bydd Deddf Galluedd Meddyliol 2005 yn helpu unigolion i wneud eu penderfyniadau eu hunain. Bydd hefyd yn diogelu unigolion na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â rhai pethau. Gelwir hyn yn ddiffyg galluedd.
Mae'r Ddeddf yn dweud wrth unigolion:
1/3
Sut mae deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol eraill yn sail i ddull gweithredu seiliedig ar hawliau?
Edrychwch ar un o'r canlynol a gwnewch nodiadau ar ei effaith ar ddilyn dull gweithredu seiliedig ar hawliau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn eich barn chi.