1/5
Mewn perthynas â darparu dull gweithredu seiliedig ar hawliau, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn sail i hyn. Mae hon yn ddeddf bwysig sy'n ymwneud â'r ffordd y dylai gofalwyr fod yn darparu gofal a chymorth i unigolion sy'n defnyddio gwasanaethau yng Nghymru.
Hefyd, mae eiriolaeth yn ategu egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ac yn ffordd werthfawr o gefnogi llais, dewisiadau a llesiant unigolion. Gall eiriolaeth helpu unigolion i gael gafael ar wybodaeth am wasanaethau, bod yn rhan o benderfyniadau am eu bywydau, ystyried dewisiadau ac opsiynau, a rhoi gwybod beth yw eu hanghenion a'u dymuniadau. Byddwn yn archwilio hyn ymhellach yn nes ymlaen.
1/5
Mae dull gweithredu seiliedig ar hawliau yn golygu darparu gwasanaethau mewn ffordd sy'n sicrhau bod egwyddorion a gwerthoedd wrth wraidd pob agwedd ar y gwaith o gynllunio gwasanaethau, polisïau ac ymarfer. Er enghraifft, disgwylir i weithwyr gofal cymdeithasol drin pob unigolyn fel unigolyn, parchu a hyrwyddo barn a dymuniadau unigolion a chefnogi eu hawl i reoli eu bywydau eu hunain a gwneud dewisiadau yn seiliedig ar wybodaeth. Mae'n ffordd o ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac nid dim ond ei anghenion iechyd neu ofal. Mae gwerthoedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cefnogi dull gweithredu seiliedig ar hawliau ac yn cwmpasu holl ofal yr unigolyn. Yr unigolyn sydd wrth wraidd ei ofal, felly rhaid ymgynghori ag ef a rhaid rhoi ei farn yn gyntaf bob amser.
1/5
Mae pob un ohonom yn unigryw ac yn wahanol i'n gilydd. Er enghraifft, nid yw'n gywir dweud, am fod gan ddau unigolyn ddementia, fod gan y ddau ohonynt yr un anghenion gofal a chymorth. Mae gwerthoedd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn sicrhau dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion unigolion a bod cynlluniau gofal unigol priodol yn cael eu datblygu ar gyfer pawb.
Beth rydych chi'n mwynhau ei wneud yn eich amser hamdden? Cymharwch hyn â'r hyn y mae eich ffrind gorau neu eich partner yn hoffi ei wneud. Ydych chi'n gweld gwahaniaeth rhwng eich diddordebau?
Ni fyddech am orfod gwneud popeth yn yr un ffordd â'ch partner felly mae'n bwysig edrych ar wahaniaethau unigol mewn dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau.
1/5
Yn aml, bydd gofalwyr yn cefnogi unigolion pan fyddant mewn sefyllfa fregus. Mae ansawdd y gofal a roddir yn dibynnu ar y ffordd y gall gofalwyr gefnogi a diwallu anghenion yr unigolyn yn effeithiol, gan feddu ar wybodaeth gadarn am yr unigolyn a'i ofynion.
Er enghraifft, gall gwybodaeth helpu'r gofalwr i ddeall pam mae unigolion yn ymddwyn fel y maent. Bydd cynllun gofal, sy'n seiliedig ar ddull gweithredu sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn helpu i ddeall rhywfaint o hyn.
Mae gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn golygu ystyried mai'r unigolyn a gefnogir sydd bwysicaf. Mae angen i ofalwyr ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi'r unigolyn, nid darparu'r un gofal i bawb.
Mae dulliau gweithredu seiliedig ar hawliau, sy'n cynnwys gwaith cynllunio sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn ffordd o helpu unigolion i feddwl am yr hyn y maent am ei gael nawr ac yn y dyfodol. Y nod yw helpu unigolion i gynllunio eu bywydau, gweithio tuag at gyflawni eu nodau a chael y cymorth cywir. Yr hyn sydd dan sylw yw casgliad o adnoddau a dulliau gweithredu sy'n seiliedig ar gyfres o werthoedd a rennir y gellir eu defnyddio i gynllunio gydag unigolyn, nid ar ei ran. Dylai'r gwaith cynllunio ddatblygu cylch cymorth yr unigolyn a chynnwys yr holl unigolion sy'n bwysig yn ei fywyd.
1/5
Mae cynllun gofal yn disgrifio, mewn ffordd syml a hawdd ei deall, y gwasanaeth a'r cymorth a ddarperir, a dylid ei lunio a chytuno arno ar y cyd â'r unigolyn drwy broses cynllunio gofal.
Beth ddylai gael ei gynnwys mewn cynllun gofal a chymorth yn eich barn chi? Meddyliwch am yr hyn yr hoffech i bobl ei wybod amdanoch chi petai'n rhaid i chi dderbyn gofal. Sut ydych chi'n meddwl y dylid cwblhau hyn ac ar ba ffurf y dylid ei gofnodi?