All health and social care, and childcare services have to be guided and regulated to ensure a good standard of service and to ensure consistency amongst service providers.
Mae angen llywio a rheoleiddio pob gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol a gofal plant er mwyn sicrhau gwasanaeth o safon dda a sicrhau cysondeb ymysg darparwyr gwasanaethau.
They are guided and regulated by the following national regulatory bodies:
All three regulatory bodies, will work together to improve services in the health, social care and children’s services sectors, therefore improving the health and well-being of service users in Wales.
Cânt eu llywio a'u rheoleiddio gan y cyrff rheoleiddio cenedlaethol canlynol:
Bydd y tri chorff rheoleiddio yn cydweithio er mwyn gwella gwasanaethau yn y sectorau gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a gofal plant, gan wella iechyd a lles defnyddwyr gwasanaethau yng Nghymru.
Estyn is the education and training inspectorate for Wales. They receive their funding from the Welsh government and inspect schools and education training providers to assess whether they are providing the minimum standard of service provision that is expected.
Some of the educational settings they inspect include the following services:
If an educational setting is not meeting the standard required, then they would provide advice and guidance about what they need to do in order to reach the expected standard of provision.
All reports that Estyn produce about an educational service are available for the general public to read.
Estyn yw arolygiaeth addysg a hyfforddiant Cymru. Caiff ei hariannu gan lywodraeth Cymru ac mae'n arolygu ysgolion a darparwyr hyfforddiant addysg er mwyn asesu p'un a ydynt yn darparu'r safon ofynnol o wasanaeth a ddisgwylir.
Ymysg rhai o'r lleoliadau addysgol y maent yn eu harolygu mae'r gwasanaethau canlynol:
Os nad yw lleoliad addysgol yn bodloni'r safon ofynnol, byddai'n rhoi cyngor ac arweiniad ar yr hyn y mae angen iddo ei wneud er mwyn cyrraedd safon y ddarpariaeth a ddisgwylir.
Mae'r holl adroddiadau y mae Estyn yn eu llunio am wasanaeth addysgol ar gael i'r cyhoedd cyffredinol ei ddarllen.
Healthcare Inspectorate Wales is the inspectorate and regulator of healthcare in Wales. They regulate NHS services and private healthcare services to ensure a certain standard of healthcare provision.
They look at how services:
A report is written once a service has been inspected, the general public are then able to read this report.
Where the provision within a health service is deemed unacceptable, they will highlight the areas that require improvement and this will be monitored to ensure the appropriate level of improvement is carried out.
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yw'r arolygydd a rheoleiddiwr gofal iechyd yng Nghymru. Mae'n rheoleiddio gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau gofal iechyd preifat er mwyn sicrhau y caiff gofal iechyd o safon benodol ei ddarparu.
Mae'n edrych ar y ffordd mae gwasanaethau:
Pan fydd gwasanaeth wedi cael ei arolygu, caiff adroddiad ei ysgrifennu, sydd ar gael i'r cyhoedd cyffredinol ei ddarllen.
Pan ystyrir nad yw'r ddarpariaeth mewn gwasanaeth iechyd yn dderbyniol, bydd yn amlygu'r meysydd y mae angen eu gwella a chaiff hyn ei fonitro er mwyn sicrhau bod y lefel briodol o welliant yn cael ei chyflawni.
The Care Inspectorate Wales are responsible for regulating, inspecting and reviewing social care services and will investigate any concerns raised about a specific service. Any social care service that is deemed to be providing unacceptable social care, will have action taken against them and be driven to improve.
Some of the services they inspect and regulate include:
Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn gyfrifol am reoleiddio, arolygu ac adolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol a bydd yn ymchwilio i unrhyw bryderon a godir am wasanaeth penodol. Bydd achos yn cael ei gymryd yn erbyn unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol yr ystyrir ei fod yn darparu gofal cymdeithasol annerbyniol, a chaiff ei annog i wella.
Ymysg rhai o'r gwasanaethau y mae'n eu harolygu a'u rheoleiddio mae:
Drag the services to the correct National regulatory body.
Llusgwch y gwasanaethau i'r corff rheoleiddio cenedlaethol cywir