Gall llawer o ffactorau gyfrannu at iechyd a llesiant unigolyn mewn ffyrdd cadarnhaol neu negyddol.
1/16
Bydd lefel yr effaith y gall y ffactorau ei chael ar unigolyn yn gysylltiedig â nifer y ffactorau cyfrannol dan sylw.
Gall y ffactorau risg hyn gael effaith uniongyrchol ar iechyd a llesiant unigolyn.
Er enghraifft:
Gall unigolyn sydd wedi etifeddu cyflwr genynnol y galon fyw bywyd iach o ansawdd da drwy wneud y dewisiadau priodol. Gall y dewisiadau hyn fod yn gyfyngedig os bydd ffactorau eraill yn cyfrannu, megis yr economi a'r amgylchedd y mae'n byw ynddo.
Ni all reoli'r ffaith bod ganddo gyflwr genynnol na phethau fel yr economi neu'r amgylchedd, ond gall reoli ei ffordd o fyw, er enghraifft, pa fwyd y mae'n ei fwyta, pa ymarfer corff y mae'n ei wneud, p'un a yw'n ysmygu a faint o alcohol mae'n ei yfed.
Yn anochel, byddai ysmygu ac yfed symiau mawr o alcohol yn cynyddu'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyflwr y galon a etifeddwyd ar iechyd a llesiant cyffredinol unigolyn.
Gallai peidio ag ysmygu nac yfed alcohol yn ogystal â gwneud ymarfer corff rheolaidd a bwyta'n iach wella iechyd a llesiant yr unigolyn.
Dieithriaid Drwg ac aros yn ddiogel ar-lein
1/16
Dieithriad Drwg ('Stranger Danger' yn Saesneg) yw'r term a ddefnyddir ar gyfer y rheolau a'r awgrymiadau diogelwch y mae angen eu haddysgu i blant er mwyn iddynt wybod sut i amddiffyn eu hunain yn erbyn oedolion dieithr, yn bersonol ac ar-lein.
Mae Schoolbeat yn cynnig y rheolau diogelwch sylfaenol canlynol:
Deunydd darllen pellach https://bit.ly/2RcUSvX
Mae'n amhosibl i rieni fonitro popeth y mae eu plant yn ei wneud ar-lein ond gallant lunio rhai rheolau er mwyn sicrhau y cânt eu hamddiffyn.
Lluniwch boster yn dweud wrth blant sut i aros yn ddiogel rhag dieithriaid.
1/16
Mae damweiniau ar y ffordd yn achosi nifer o farwolaethau ac anafiadau ac mae gyrwyr a theithwyr ifanc yn wynebu risgiau sylweddol.
Mae'r perygl sy'n gysylltiedig â thraffig hefyd yn risg i blant ac unigolion ifanc wrth gerdded a seiclo i'r ysgol, i'r parc neu i weld ffrindiau.
Mae oedolion sy'n gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn achosi nifer o farwolaethau ac anafiadau ar y ffyrdd. Mae alcohol a chyffuriau yn cael effaith andwyol ar sgiliau echddygol ac yn lleihau amseroedd ymateb.
Gall offer diogel ar yr iard chwarae a goruchwyliaeth gan oedolion helpu i leihau'r risgiau y caiff plant eu hanafu yn yr iard chwarae ond mae angen addysgu plant sut i fod yn ddiogel ac i ymddwyn yn gyfrifol wrth chwarae.
Er enghraifft, ni ddylent wthio plant eraill pan fyddant yn dringo ar offer a dylent edrych i wneud yn siŵr nad oes plant eraill yn y ffordd cyn defnyddio sleidiau neu siglenni ac ati.
Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bob plentyn sy'n teithio ym mlaen neu yng nghefn unrhyw gar ddefnyddio'r sedd car plentyn cywir hyd nes y bydd naill ai'n 135cm o daldra neu'n 12 oed (pa un bynnag sy'n digwydd gyntaf). Ar ôl hyn, rhaid iddynt ddefnyddio gwregys diogelwch oedolyn.
1/16
It is really important to think about sun protection for everyone from babies to elderly individuals.
These are the recommendations for staying safe in the sun:
Further reading https://bit.ly/2L5GXkF
Mae'n bwysig iawn ystyried amddiffyniad rhag yr haul i bawb, o fabanod i unigolion oedrannus.
Dyma'r argymhellion ar gyfer aros yn ddiogel yn yr haul:
Deunydd darllen pellach https://bit.ly/2L5GXkF
1/16
Mae ymchwilwyr yn amcangyfrif y gallai diffyg ymarfer corff fod yn gyfrifol am tua un o bob deg o'r achosion o glefyd y galon (10.5%) ac ychydig llai nag un o bob pum achos (18.7%) o ganser y colon yn y DU.
Ffynhonnell y GIG https://bit.ly/2zA6XQ2
Gall diffyg ymarfer corff achosi i'r esgyrn wanhau, i'r cyhyrau lacio a gall achosi diffygion o ran gweithrediad yr organau. Gall unigolion fagu pwysau, a allai arwain at un neu fwy o gyflyrau meddygol sy'n gysylltiedig â gordewdra, megis diabetes neu bwysedd gwaed uchel.
1/16
Mae gordewdra yn fater sy’n achosi pryder mawr o ran iechyd y cyhoedd yng Nghymru. Mae bron i 60% o oedolion Cymru dros bwysau neu’n ordew. Mae wedi’i nodi mai indecs màs y corff (BMI) uchel sy’n cyfrannu fwyaf at Flynyddoedd o Fyw gydag Anabledd (YLD: Years Lived with Disability).
Deiet gwael a diffyg ymarfer corff sy’n gyfrifol am hyn. Yn Adroddiad Gordewdra yng Nghymru 2019, canfuwyd bod un oedolyn o bob deg yng Nghymru yn honni nad yw’n gallu fforddio bwyta deiet cytbwys. Mae achosion o ordewdra 7% yn uwch mewn oedolion sydd ddim yn bwyta unrhyw ffrwythau na llysiau o gymharu â’r rhai sy’n bwyta pump dogn neu fwy o ffrwythau neu lysiau.
Gall gordewdra achosi anawsterau mewn bywyd o ddydd i ddydd:
Yn waeth byth, gall gordewdra achosi anawsterau iechyd hefyd, fel:
Gall hefyd effeithio ar lesiant meddyliol. Gall unigolyn ddioddef o iselder a diffyg hunan-werth, a theimlo’n ynysig wrth dynnu’n ôl o’r gymdeithas o ganlyniad i deimlo embaras am ei bwysau.
Er mwyn lleihau’r risgiau meddygol, mae unigolion yn cael eu hannog i golli pwysau, naill ai drwy ddeiet ac ymarfer corff neu drwy driniaeth lawfeddygol.
1/16
Gall camddefnyddio cyffuriau gynnwys camddefnyddio cynhyrchion yn y cartref fel hylifau cynnau a thoddyddion, yn ogystal â chyffuriau anghyfreithlon. Gall camddefnyddio’r holl sylweddau hyn achosi perygl uniongyrchol i iechyd unigolyn. Gall rhai sylweddau achosi dibyniaeth gorfforol neu seicolegol. O ganlyniad, bydd angen defnyddio mwy o’r cyffur i gael yr un effaith, ac yn aml iawn, bydd hyn yn arwain at ddifrod tymor hir i’r corff. Gall dos gormodol arwain at farwolaeth.
Efallai bydd unigolion yn profi’r problemau corfforol a meddyliol canlynol:
Gall caethiwed i gyffuriau gael effaith negyddol ar sawl agwedd ar fywyd unigolyn, gan gynnwys anawsterau yn y gwaith a gartref, pwysau ariannol a phroblemau posibl â’r gyfraith os yw caethiwed yn arwain at weithgareddau troseddol neu ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae gyrru ar gyffuriau ar gynnydd. Cafodd 2,500 o unigolion eu stopio gan yr heddlu yn y tair blynedd hyd at 2018. Mae llawer yn teimlo nad yw gyrru ar gyffuriau mor beryglus ag yfed a gyrru. Fodd bynnag, mae gwaith ymchwil wedi dangos bod camddefnyddio cyffuriau yn lleihau amser ymateb pobl ac yn effeithio ar eu gallu i ganolbwyntio. Yn ei dro, mae hyn yn cynyddu’r perygl o ddamwain traffig ar y ffordd. Mae Llywodraeth Cymru a’r heddlu yng Nghymru yn cymryd gyrru ar gyffuriau o ddifrif. Maen nhw wedi lansio llawer o ymgyrchoedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf i godi ymwybyddiaeth o’r peryglon. Drwy gyflwyno drugalysers i chwilio am gocên a chanabis ar ôl swabio ceg unigolyn sydd dan amheuaeth, a chynnal profion gwaed yng ngorsaf yr heddlu i chwilio am ecstasi a heroin, maen nhw wedi helpu i fynd i’r afael â phroblem gyrru ar gyffuriau.
1/16
Yn ôl y BBC, bu cynnydd o 300% yn y cyffuriau lleddfu poen cryf a oedd yn cael eu rhoi ar bresgripsiwn rhwng 2005 a 2015. Mae’r meddyginiaethau hyn yn gaethiwus iawn a gallan nhw achosi problemau i’r defnyddiwr wrth iddo gymryd y meddyginiaethau (oherwydd sgil effeithiau), a hefyd pan fydd yn ceisio rhoi’r gorau i’w cymryd. Gall y symptomau diddyfnu (withdrawal symptoms) o ganlyniad i roi’r gorau i’r meddyginiaethau hyn, achosi problemau iechyd difrifol.
Bydd unigolyn yn ymddwyn fel a ganlyn os yw’n mynd yn gaeth i gyffuriau presgripsiwn:
Efallai na fydd unigolyn sy’n camddefnyddio cyffuriau presgripsiwn yn ymwybodol o’r ffordd mae hyn yn effeithio ar ei ymddangosiad a’i ymddygiad, ond bydd y bobl o’i amgylch yn sylwi. Gall y symptomau mwyaf gweladwy gynnwys:
Gall y symptomau diddyfnu sy’n deillio o roi’r gorau i’r mathau hyn o feddyginiaethau achosi:
1/16
Enw arall ar sylweddau seicoweithredol yw ‘cyffuriau penfeddwol cyfreithlon’ (legal highs) ac maen nhw’n cael eu defnyddio fel cyffuriau adloniant (recreational drugs) am eu bod nhw’n cael effaith ewfforig ar y defnyddiwr. Maen nhw wedi’u creu i efelychu effeithiau cyffuriau anghyfreithlon fel canabis, ecstasi neu gocên.
Am fod y sylweddau hyn yn gyfreithlon, mae llawer o ddefnyddwyr yn camgymryd eu bod nhw’n ddiogel. Dydy hyn ddim yn wir, ac mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn gysylltiedig â gwenwyno, derbyniadau brys i’r ysbyty a marwolaethau, mewn rhai achosion. Y brif broblem gyda’r sylweddau hyn yw na all y defnyddiwr fod yn siŵr beth sydd ynddyn nhw na sut bydd ei gorff yn adweithio. Efallai na fydd y rhestr gynhwysion ar y pecyn bob amser yn nodi’r union gynnwys, fel y mae profion fforensig wedi’i brofi yn y gorffennol.
Mae mathau gwahanol o’r sylweddau hyn ar gael, a bydd eu sgil effeithiau yn wahanol.
1/16
Mae alcohol yn cael ei ystyried yn ‘gyffur’ sy’n dderbyniol yn gymdeithasol, ac mae llawer iawn o oedolion yn ei yfed wrth gymdeithasu. Dydy defnydd cymedrol ddim yn broblem fawr, ond dydy llawer o oedolion ddim yn deall lle mae’r terfyn diogel. Mae Prif Gynghorydd Meddygol y DU o’r farn nad oes terfyn diogel. Dim ond lleihau’r risgiau i iechyd, yn hytrach na’u dileu, y mae’r canllawiau sydd ar waith ar hyn o bryd. Yr unig ffordd o atal effeithiau alcohol yn gyfan gwbl yw peidio ag yfed alcohol o gwbl.
Mae’r canllawiau cyfredol yn nodi na ddylai oedolion yfed mwy na 14 uned yr wythnos, sydd gyfwerth â saith peint o gwrw o gryfder cyffredin, neu 14 mesur sengl o wirod. Dylai pobl yfed yr unedau hyn dros yr wythnos gyfan, yn hytrach na’u cadw i’w hyfed ar yr un pryd. Ddylai mamau beichiog ddim yfed alcohol o gwbl, oherwydd byddai’n cynyddu’r risg o broblemau yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth.
Mae goryfed mewn pyliau (binge drinking) yn destun pryder yng Nghymru. Mewn arolwg diweddar, roedd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi canfod bod un oedolyn o bob saith wedi yfed mwy na 14 uned mewn un diwrnod. Gall goryfed mewn pyliau arwain at y canlynol:
Mae’r effeithiau canlynol ar iechyd yn gysylltiedig ag yfed alcohol dros gyfnod hir o amser:
Gall alcohol effeithio ar lesiant unigolyn hefyd. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn honni bod problemau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn cael fwy o effaith ar bobl o’r cefndiroedd mwyaf difreintiedig na gweddill y boblogaeth. Canfuwyd hefyd bod alcohol yn gysylltiedig â dros 6,000 o achosion o gam-drin domestig bob blwyddyn. Gall yfed yn drwm arwain at ddiweithdra hefyd, neu broblemau yn y gwaith, yn ogystal â phroblemau mewn perthynas ac yn y teulu.
1/16
Ysmygu yw'r ffactor mwyaf sy'n achosi marwolaeth neu salwch yn y DU.
Gall achosi sawl math o ganser, gan gynnwys canser yr ysgyfaint, canser y gwddf a chanser oesoffagaidd.
Gall hefyd niweidio'r galon gan arwain at drawiad ar y galon neu strôc.
Gall ysmygu goddefol hefyd achosi niwed difrifol.
Mae plant a gaiff eu hamlygu i ysmygu goddefol yn fwy tebygol o ddatblygu heintiau ar y frest, llid yr ymennydd, peswch parhaus ac asthma, heintiau yn y glust ac hyd yn oed farwolaeth yn y crud.
1/16
Er ei bod yn gwbl arferol i bobl ifanc arbrofi â’u rhywioldeb, gallai hyn arwain at ymddygiad peryglus ac arferion anniogel. Mae’n bwysig bod eu hiechyd rhywiol yn cael ei ystyried yr un mor bwysig â’u hiechyd corfforol, a’i fod yn cael ei gefnogi yn yr un modd.
Mae iechyd rhywiol yn ymwneud â mwy na dim ond atal cenhedlu a diogelu rhag clefydau cysylltiad rhywiol; mae’n golygu gwneud dewisiadau cadarnhaol sy’n cefnogi llesiant emosiynol, corfforol a chymdeithasol unigolyn. Dydy oedolion ifanc ddim wedi datblygu digon yn emosiynol i ymdopi â’r agweddau negyddol ar berthnasoedd rhywiol. Os ydyn nhw’n cael eu gorfodi i mewn i weithgarwch rhywiol cyn iddyn nhw deimlo’n barod, gall arwain at broblemau emosiynol difrifol.
I ddiogelu ei iechyd rhywiol, mae GIG Cymru yn argymell y dylai unigolyn wneud y canlynol:
1/16
Mae clefydau cysylltiad rhywiol yn gyffredin iawn. Mae’r mwyafrif yn cael eu trosglwyddo yn ystod cyfathrach rywiol a rhyw geneuol, felly condomau yw’r ffordd orau o’ch diogelu eich hun rhagddyn nhw.
Clamydia yw’r clefyd cysylltiad rhywiol mwyaf cyffredin yng Nghymru. Mae’n effeithio ar fwy o oedolion ifanc nag unrhyw ran arall o’r boblogaeth. Dydy clamydia ddim yn cyflwyno llawer o symptomau amlwg, felly efallai na fydd unigolyn ifanc bob amser yn sylweddoli bod haint ganddo oni bai ei fod yn cael prawf. Heb ei drin, gall clamydia achosi anffrwythlondeb.
Lympiau bach neu newidiadau i’r croen o amgylch yr ardal cenhedlu neu ardal yr anws yw dafadennau organau cenhedlu, ac maen nhw’n gyffredin iawn hefyd. Mae’r dafadennau hyn wedi cael eu cysylltu â chanser gwddf y groth, felly i ddiogelu rhag hyn, mae pob merch ym Mlwyddyn 8 bellach yn cael cynnig brechlyn HPV sy’n diogelu yn erbyn tua 90% o ddafadennau organau cenhedlu.
Mae herpes yr organau rhywiol yn glefyd cyffwrdd-ymledol (contagious), ac mae’n gyffredin ymhlith pobl 20–24 oed. Mae’n achosi pothelli poenus. Does modd ei wella’n llwyr, dim ond ei reoli â meddyginiaeth gwrthfirol.
Efallai y bydd unigolyn yn anwybyddu syffilis oherwydd dydy’r briwiau sy’n symptom o’r clefyd ddim o reidrwydd yn boenus. Fodd bynnag, os na chaiff ei drin, gall y clefyd cysylltiad rhywiol hwn niweidio’r galon, yr ymennydd neu’r system nerfol.
Gall fod yn anodd sylwi ar HIV hefyd; mae bron i 1 unigolyn o bob 4 sydd â HIV yn anymwybodol bod ganddo’r clefyd. Os yw’n cael ei drin yn gynnar, gall yr unigolyn fyw bywyd iach. Ond os yw’n cael ei adael heb ei drin, gall effeithio ar allu’r system imiwnedd i ddiogelu yn erbyn afiechydon sy’n peryglu bywyd.
Gonorrhoea yw’r ail glefyd cysylltiad rhywiol fwyaf cyffredin, a gall arwain at anffrwythlondeb os na chaiff ei drin.
Mae atal cenhedlu yn ddewis personol, ac mae’n dibynnu i raddau helaeth ar a yw unigolyn yn dymuno cael plant ai peidio. Mae dulliau poblogaidd o atal cenhedlu yn cynnwys:
1/16
Nid yw’n anarferol i unigolyn ifanc deimlo’n ddryslyd ynglŷn â’i hunaniaeth rywiol. Gall hyn arwain at broblemau gyda hunanddelwedd, yn enwedig os yw’n teimlo ei fod yn mynd yn groes i ddisgwyliadau ei deulu. Mae’n bwysig ei gefnogi iddo allu teimlo’n gyfforddus ynddo’i hun, a’i helpu i wybod lle mae cefnogaeth ychwanegol ar gael iddo. Efallai y bydd yn ei ddiffinio ei hun fel un o’r canlynol.
Hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol – efallai bod pobl yn gwahaniaethu yn erbyn yr unigolion hyn, neu’n eu cam-drin. O ganlyniad, maen nhw ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef iselder, a 1.5 gwaith yn fwy tebygol o ddioddef gorbryder nag unigolion heterorywiol. Mae unigolion hoyw, lesbiaidd a deurywiol hefyd yn fwy tebygol o deimlo’n ynysig, hunan-niweidio ac ystyried hunanladdiad.
Trawsrywiol – gall yr elyniaeth, y stigma, y gwahaniaethu a’r gwrthod cymdeithasol y mae unigolion trawsrywiol weithiau’n ei wynebu gael effaith negyddol ar eu hiechyd meddwl a’u llesiant. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi bod unigolion trawsrywiol 49 gwaith yn fwy tebygol o ddal HIV. Maen nhw’n credu mai’r stigma sy’n gysylltiedig â’u hunaniaeth rywiol sy’n gyfrifol am hyn, gan eu hatal rhag mynd am brofion iechyd rhywiol.
Heterorywiol – er nad yw’r unigolion hyn yn wynebu’r un math o wahaniaethu â hunaniaethau rhywiol eraill, maen nhw’n dal mewn perygl o ddioddef gorbryder ac iselder os nad ydyn nhw’n gofalu am eu hiechyd rhywiol emosiynol. Maen nhw hefyd mewn perygl o niweidio eu hiechyd corfforol os nad ydyn nhw’n bod yn ddiogel wrth gael rhyw.
1/16
Mae arferion bwyta afiach yn cynnwys peidio â chael digon o'r bwydydd iach y mae eu hangen ar unigolyn bob dydd. Mae bwyta ac yfed gormod o fwyd a diod sy'n isel mewn ffibr neu'n uchel mewn braster, halen a/neu siwgr yn golygu arferion bwyta afiach.
Gall deiet gwael arwain at lai o imiwnedd, mwy o risg o glefyd, diffyg datblygiad corfforol a meddyliol, a llai o gynhyrchedd.
Gydag unigolion yn arwain bywydau prysur, gellir dibynnu'n ormodol ar fwydydd cyflym a gall y rhain arwain at amrywiaeth o broblemau a all gynnwys:
Ffynhonnell: Healthline https://bit.ly/2gycAFi
Cyfarwyddiadau cyflwyno gweithgareddau.
1/16