There are a number of measures used by health professionals as indicators of good health.
Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn defnyddio nifer o fesurau fel dangosyddion iechyd da.
These are used as early indicators of potential health issues. Individuals can be advised of lifestyle changes that will help improve their health and well-being.
These measures include:
Fe'u defnyddir fel dangosyddion cynnar ar gyfer problemau iechyd posibl. Gellir awgrymu newidiadau y gall unigolion gwneud i'w ffordd o fyw a fydd yn helpu i wella eu hiechyd a'u llesiant.
Mae'r mesurau hyn yn cynnwys:
Hilda is a 49 year old woman. She weighs 13st 3lbs and is 5 foot 6 inches tall. She admits to have a sweet tooth and can’t resist the biscuits in the office. Her lifestyle is sedentary, she drives to work, sits at her desk for up to eight hours a day and only walks the dog on a Sunday.
Use the NHS BMI calculator to work out Hilda’s BMI. What advice would you give her to make positive changes to improve her health and well-being?
Mae Hilda yn fenyw 49 oed. Mae'n pwyso 13 stôn 13 pwys ac mae'n 5 troedfedd 6 modfedd o daldra. Mae'n cyfaddef bod ganddi ddant melys ac mae'n methu â gwrthod y bisgedi yn y swyddfa. Mae'n treulio'r rhan fwyaf o'i hamser ar ei heistedd, mae'n gyrru i'r gwaith, yn eistedd wrth ei desg am hyd at wyth awr y dydd a dim ond ar ddydd Sul y mae'n mynd â'r ci am dro.
Defnyddiwch gyfrifiannell BMI y GIG i gyfrifo BMI Hilda. Pa gyngor y byddech yn ei roi iddi er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i wella ei hiechyd a'i llesiant?
Watch the film showing a lady’s blood pressure being taken
Gwyliwch y ffilm sy'n dangos pwysedd gwaed menyw yn cael ei fesur
Her reading is 120 over 78. Using the chart you can see that her blood pressure is on the normal range. What advice would you give if her blood pressure reading had been 140 over 90?
Further reading https://bit.ly/2RU84Ca
Rhoddir darlleniad o 120 dros 78 iddi. Gan ddefnyddio'r siart, gallwch weld bod ei phwysedd gwaed o fewn yr ystod normal. Pa gyngor y byddech yn ei roi iddi pe bai ganddi ddarlleniad pwysedd gwaed o 140 dros 90?
Deunydd darllen pellach https://bit.ly/2RU84Ca
Watch the video to see how a peak flow meter is used.
Gwyliwch y fideo i weld sut y defnyddir mesurydd anterth llif.
Now imagine that a 20 year old man with a height of 6 foot has a peak flow reading of 560. Check this on the graph. Is the reading normal? If not what advice would you give?
Nawr dychmygwch fod gan ddyn 20 oed sy'n 6 troedfedd o daldra ddarlleniad anterth llif o 560. Edrychwch ar y mesuriad hwn ar y graff. A yw'r darlleniad yn normal? Os nad ydyw, pa gyngor y byddech yn ei roi?