More than just words is the follow on strategic framework for Welsh language services in health, social services and social care.

Mwy na geiriau yw'r fframwaith strategol dilynol ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol.

More than just words

The aim of the original strategy was to strengthen Welsh language services in health, social services and social care. This led to a number of initiatives ensuring Welsh speakers receive services in their first language, using existing skills and resources.

The aim of this follow on strategic framework is to build on the original strategy, as well as to reflect changes in the political and legislative context.

Nod y strategaeth wreiddiol oedd cryfhau gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Arweiniodd hyn at nifer o fentrau i sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf, gan ddefnyddio sgiliau ac adnoddau sydd eisoes yn bodoli.

Nod y fframwaith strategol dilynol hwn yw adeiladu ar y strategaeth wreiddiol, yn ogystal ag adlewyrchu newidiadau yn y cyd-destun gwleidyddol a deddfwriaethol.

Although the Welsh language is an integral element in the care and support of many Welsh speakers, some groups have greater need to receive their services in Welsh.

Er bod y Gymraeg yn rhan anhepgor o ofal a chefnogaeth nifer o siaradwyr Cymraeg, mae gan rhai grwpiau fwy o alwad i dderbyn eu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.

Who do you think these groups are?

Pwy ydych chi'n credu yw'r grwpiau hyn?

This film shows a care worker talking about the importance of the Welsh language when connecting with an individual.

Mae'r ffilm hon yn dangos gweithiwr gofal yn siarad am bwysigrwydd yr iaith Gymraeg pan maent yn cysylltu ag unigolion.

Watch the videos and discuss the importance of the use of the Welsh language in a Health and Social Care setting.

Gwyliwch y fideos a thrafodwch bwysigrwydd defnydd yr iaith Gymraeg mewn sefyllfa Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

The Code of Professional Practice for Social Care

Côd Ymarfer Proffesiynol a Chartref Gofal

QuestionCwestiwn Your AnswerEich Ateb

Prompts

Some areas that you may have considered:

  • Things that are wrong in the scene:
    • No proper induction for Sarah – she does not know what is expected of her
    • The manager is dismissive and does not pick up on Sarah’s concerns from her body language and facial expressions
    • There is little information passed on about the individuals Sarah will be working with
    • The manager is dismissive of family concerns and talks of Gareth as if his phone calls are a nuisance
    • The manager is dismissive of Betsan’s communication needs and has a lack of understanding of how dementia can impact upon the language that individuals are able to use
    • The environment – noise levels / TV
    • Lack of varied and individual centred activities
    • Lack of interaction between staff and the individuals living in the home
    • Did not pick up on Betsan’s facial expression that she wanted an individual to talk to her when the new member of staff was being shown around
    • Calling Betsan ‘Bet’
    • Betsan’s appearance is unkempt
    • The food is unappetising and would be difficult for an individual with sight loss or altered perception to see
    • There is no drink on the table
    • The use of a plastic apron and the way that this is placed on Betsan
    • The use of a spoon to feed Betsan.
  • Sarah and Betsan are likely to be feeling:
    • Ill at ease
    • Lost
    • Confused
    • Anxious
    • Distressed
    • Not valued.

The consequences for Betsan are likely to be that her quality of life and well-being seriously deteriorate and that Sarah will either leave her employment fairly quickly or get sucked into a poor culture and ways of working.

Awgrymiadau

Rhai meysydd y gallech chi fod wedi’u hystyried:

  • Pethau sy’n anghywir yn yr olygfa:
    • Dim proses sefydlu briodol ar gyfer Sarah – dyw hi ddim yn gwybod beth a ddisgwylir ganddi
    • Mae’r rheolwr yn ei diystyru a dyw hi ddim yn sylwi ar bryderon Sarah yn sgil iaith ei chorff ac o’r olwg ar ei hwyneb
    • Does fawr ddim gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo am yr unigolion y bydd Sarah yn cydweithio â nhw
    • Mae’r rheolwr yn diystyru pryderon teuluol ac yn siarad am Gareth fel petai ei alwadau ffôn yn niwsans
    • Mae’r rheolwr yn diystyru anghenion cyfathrebu Betsan ac mae ganddi ddiffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut y gall dementia effeithio ar yr iaith y gall unigolion ei defnyddio
    • Yr amgylchedd – lefelau sŵn / teledu
    • Diffyg gweithgareddau amrywiol sy’n canolbwyntio ar unigolion
    • Diffyg ymwneud rhwng y staff a’r unigolion sy’n byw yn y cartref
    • Ni sylwodd o’r olwg oedd ar wyneb Betsan ei bod am i unigolyn siarad â hi pan oedd yr aelod staff newydd yn cael ei hebrwng o gwmpas
    • Galw Betsan yn ‘Bet’
    • Ymddangosiad Betsan yn anniben
    • Dyw’r bwyd ddim yn edrych yn flasus iawn a byddai’n anodd i unigolyn a oedd yn colli ei olwg neu â nam ar y golwg ei weld
    • Does dim byd i’w yfed ar y bwrdd
    • Defnyddio ffedog blastig a’r ffordd y mae’n cael ei rhoi ar Betsan
    • Defnyddio llwy i fwydo Betsan.
  • Mae Sarah a Betsan yn debygol o fod yn teimlo fel a ganlyn:
    • Yn chwithig
    • Ar goll
    • Yn ddryslyd
    • Yn bryderus
    • Yn ofidus
    • Nad ydynt yn cael ei gwerthfawrogi.

Mae’n debygol mai’r goblygiadau i Betsan yw y bydd ansawdd ei bywyd a’i llesiant yn dirywio’n ddifrifol a bydd Sarah naill ai’n gadael ei chyflogaeth yn eithaf cyflym neu’n cael ei sugno i mewn o ddiwylliant a ffyrdd gwael o weithio.

After watching 'Care home 2' reflect upon the following:

Ar ôl gwylio ‘Cartref gofal 2’ ystyriwch y canlynol:

  • What was different within this scene?
  • How do you think Betsan and Sarah are feeling?
  • What may the consequences be for each of them?
  • What else could be better? / how could this be built upon?
  • Beth oedd yn wahanol yn yr olygfa hon?
  • Sut ydych chi’n meddwl y mae Betsan a Sarah yn teimlo?
  • Beth yw’r goblygiadau posib i’r naill a’r llall?
  • Beth arall allai fod yn well? / sut y gellid adeiladu ar hyn?

Prompts

Some areas that you may have considered:

  • What was different within this scene:
    • A more structured induction for Sarah – no pressure on her first day, allocated a mentor
    • The manager seems to have a better understanding of dementia
    • The manager is respectful of family concerns and how Gareth may be feeling
    • The manager acknowledges Betsan’s communication needs and has an understanding of how dementia can impact upon the language that individuals are able to use. There is some attempt to start meeting her communication needs
    • The language that the manager uses and the way that she talks about the individuals living in the home is more respectful and demonstrates that she values them
    • The environment – calmer
    • A range of varied and individual centred activities
    • Interaction between staff and the individuals living in the home
    • Calling Betsan by her preferred name
    • Betsan’s appearance is better – she no longer looks unkempt
    • The food looks appetising and there is good use of colour contrast that would help individuals with sight loss
    • There is drink on the table
    • No plastic apron
    • A knife and fork laid on the table rather than a spoon
    • Staff and the individuals living in the home eat together – this helps a feeling of equality and can help foster relationships
    • Sarah seems more confident and relaxed.
  • Feelings that Betsan and Sarah might have and the consequences for them:
    • Relaxed and comfortable
    • Confident
    • Happy
    • Valued
    • Connected
    • A sense of belonging for Betsan
    • Job satisfaction for Sarah
    • Betsan would have a better quality of life
    • Betsan’s family would feel reassured about her care and support
    • Sarah would be less likely to want to leave her employment, she is more likely to develop and grow.
  • Ideas of what could be better or how this could be built upon:
    • The manager could further develop the Welsh language skills of her workers by encouraging staff to use the Welsh that they do have, supporting Welsh language development in the work place, specifically targeting the recruitment of Welsh speakers and maybe by Betsan teaching care staff different Welsh words each day and having bilingual signs
    • A choice of different meals
    • Betsan could perhaps be involved in some food preparation
    • Alternative methods of communication could be used for her to stay in touch with her family such as skype.

If you work with children or young individuals or younger adults with learning difficulties or mental health issues, what learning is there from watching this scene about how their care and support could be improved?

Awgrymiadau

Rhai meysydd y gallech chi fod wedi’u hystyried:

  • Beth oedd yn wahanol yn yr olygfa hon:
    • Proses sefydlu mwy strwythuredig ar gyfer Sarah - dim pwysau ar ei diwrnod cyntaf, dyrannwyd mentor iddi
    • Ymddengys fod gan y rheolwr well dealltwriaeth o ddementia
    • Mae’r rheolwr yn ymdrin â phryderon y teulu a sut y gall Gareth fod yn teimlo
    • Mae’r rheolwr yn cydnabod anghenion cyfathrebu Betsan ac mae ganddi ddealltwriaeth o sut gall dementia effeithio ar yr iaith y gall unigolion ei defnyddio. Gwneir rhywfaint o ymdrech i geisio dechrau diwallu ei hanghenion cyfathrebu
    • Mae’r iaith y mae’r rheolwr yn ei defnyddio a’r ffordd y mae’n siarad am unigolion sy’n byw yn y cartref yn dangos mwy o barch a’i bod yn eu gwerthfawrogi
    • Yr amgylchedd – yn dawelach
    • Gweithgareddau amrywiol sy’n canolbwyntio ar unigolion
    • Rhyngweithio rhwng y staff a’r unigolion sy’n byw yn y cartref
    • Cyfarch Betsan gyda’r enw y mae’n ei ffafrio
    • Mae ymddangosiad Betsan yn well – dyw hi ddim yn edrych yn anniben mwyach
    • Mae’r bwyd yn edrych yn flasus ac mae gwrthgyferbyniad da yn y lliwiau a fyddai’n helpu unigolion sy’n colli’u golwg
    • Mae yna rywbeth i’w yfed ar y bwrdd
    • Dim ffedog blastig
    • Mae cyllell a fforc wedi’u gosod ar y bwrdd yn hytrach na llwy
    • Mae’r staff a’r unigolion sy’n byw yn y cartref yn bwyta gyda’i gilydd – mae hyn yn helpu gyda’r ymdeimlad o gydraddoldeb a gall helpu i feithrin perthynas rhwng unigolion
    • Ymddengys Sarah yn fwy hyderus a didaro.
  • Teimladau a allai fod gan Betsan a Sarah a’r goblygiadau iddyn nhw:
    • Didaro a chyfforddus
    • Hyderus
    • Hapus
    • Eu bod yn cael eu gwerthfawrogi
    • Cysylltiad ag eraill
    • Ymdeimlad o berthyn i Betsan
    • Bodlonrwydd swydd i Sarah
    • Byddai gan Betsan well ansawdd bywyd
    • Byddai hyn yn rhoi cysur i deulu Betsan ynglŷn â’i gofal a’i chymorth
    • Byddai Sarah yn llai tebygol o fod am adael ei chyflogaeth, mae’n fwy tebygol o ddatblygu a thyfu.
  • Syniadau o ran beth allai fod yn well neu sut gellid adeiladu ar hyn:
    • Gallai’r rheolwr ddatblygu sgiliau iaith Gymraeg ei gweithwyr ymhellach drwy annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg sydd ganddyn nhw, gan gefnogi datblygiad yr iaith Gymraeg yn y gweithle, yn benodol targedu’r broses o recriwtio siaradwyr Cymraeg ac efallai drwy gael Betsan i ddysgu gwahanol eiriau Cymraeg i staff gofal bob dydd a chael arwyddion dwyieithog
    • Dewis o wahanol brydau
    • Gallai Betsan fod yn rhan o’r gwaith o baratoi bwyd o bosibl
    • Gellid defnyddio dulliau cyfathrebu amgen er mwyn iddi gadw mewn cysylltiad â’i theulu fel skype.

Os ydych chi’n gweithio gyda phlant neu unigolion ifanc neu oedolion iau ag anawsterau dysgu neu broblemau iechyd meddwl, beth ellid ei ddysgu o wylio’r olygfa hon ynglŷn â sut y gellid gwella eu gofal a’u cymorth?