Mae deddfwriaeth a pholisïau cenedlaethol ar gyfer y Gymraeg yn cynnwys:
Strategaeth yr iaith Gymraeg - Cymraeg 2050 - Miliwn o siaradwyr Cymraeg
Mae gan y strategaeth hon dair nod. Mae'r rhain i:
https://gov.wales/docs/dcells/publications/170711-welsh-language-strategy-cy.pdf
Mae themâu 1 a 2 y strategaeth yn bwysig i unigolion sy'n gweithio yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant.
Nod Llywodraeth Cymru yw 'gwneud y cwbl a allwn i roi'r dechrau gorau i'n plant yn yr iaith, trwy ehangu cefnogaeth i deuluoedd drosglwyddo'r iaith yn y cartref.'
Maent yn ystyried pwysigrwydd annog a chefnogi teuluoedd i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plant, hyrwyddo manteision y Gymraeg i rieni a darpar rieni, a sicrhau bod yna gyfle i deuluoedd ddysgu'r Gymraeg.
Bydd angen ymgorffori'r negeseuon hyn yng ngwaith y nifer o unigolion broffesiynol sy'n dod i gysylltiad â rhieni a darpar rieni, gan gynnwys bydwragedd, darparwyr gofal sylfaenol, a gwasanaethau sy'n darparu gwybodaeth i deuluoedd, er mwyn creu darlun clir a chyson o'r iaith Gymraeg a dwyieithrwydd, ar adegau holl bwysig o'r blynyddoedd o fagu plant.
Nod Llywodraeth Cymru yw 'ehangu addysg Cymraeg yn y blynyddoedd cynnar i greu mynediad i addysg cyfrwng Cymraeg.'
Eu nod hirdymor i ddarpariaeth y blynyddoedd cynnar yw cyrraedd sefyllfa lle mae plant dan bum mlwydd oed wedi cael digon o gysylltiad gyda'r iaith Gymraeg i ddechrau ar eu taith tuag at ruglder.
Nod Llywodraeth Cymru yw 'creu system addysg statudol sy'n cynyddu'r nifer sy'n siarad y Gymraeg yn hyderus.'
Bydd yn ofynnol i bob ysgol yng Nghymru gyflwyno'r continwwm iaith i bob dysgwr dros amser, ac ymgorffori sgiliau'r iaith Gymraeg ym mhob rhan o'r cwricwlwm.
Nod Llywodraeth Cymru yw i 'gynyddu ystod y gwasanaethau sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg, a chynyddu defnydd gwasanaethau Cymraeg.'
Mae'r egwyddor o 'ddysgu gweithredol' yn arbennig o berthnasol i'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Yng Nghymru, mae'r GIG, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn cynnwys bron i 200,000 o staff, ac yn y GIG yn unig, mae cleifion yn defnyddio'r gwasanaeth 20 miliwn gwaith y flwyddyn.
Mae'n hanfodol nad oes rhwystrau i atal rhai i dderbyn gwasanaethau yn y Gymraeg, a rhaid i wasanaethau Cymraeg cael eu cynnig yn rhagweithiol, fod yn hawdd i'w ddod ar draws, a bod o ansawdd cyfatebol i'r rhai a gynigir yn Saesneg.