1/11
Yn y gorffennol, roedd y meddwl a'r corff yn cael eu gweld fel dau endid ar wahân. Mae'r farn fwy modern yn cydnabod y gyd-ddibyniaeth rhwng ein hiechyd corfforol ac iechyd meddwl. Mae astudiaethau wedi dangos bod manteision seicogymdeithasol cadarnhaol i weithgarwch corfforol, ac mae cysylltiad rhwng hyn ag iechyd meddwl. Felly, gall gofalu am iechyd corfforol fod yn dda ar gyfer iechyd meddwl hefyd.
Mae'n hysbys bod gofalu am ein hiechyd corfforol yn agwedd hanfodol ar gadw'n iach. Mae gofalu am iechyd corfforol yn helpu i feithrin gwydnwch yn erbyn clefydau ac afiechydon corfforol. Mae cysylltiad rhwng gwneud ymarfer corff cymhedrol a lleihau'r siawns o ddatblygu clefyd y galon, gordensiwn, osteoporosis a diabetes math dau.
Mae gweithgarwch corfforol yn helpu i ddatblygu gwydnwch a strategaethau ymdopi i reoli iechyd meddwl. Mae bod yn weithgar yn helpu iechyd meddwl gan dynnu'r sylw oddi ar feddyliau nad ydyn nhw'n ddefnyddiol (gan wella hwyliau), gan gynyddu'r ymdeimlad o reolaeth a meithrin hyder (pan fo cyflawni'r nod hwnnw yn her) a rhyngweithio gydag unigolion eraill (fel ffordd o ddatblygu cymorth ar y cyd).
Mae gweithgarwch corfforol hefyd yn aml yn cynnwys elfen gymdeithasol sy'n gallu cael effaith gadarnhaol ar yr hwyliau ac ymdeimlad o leisant hefyd. Mae'n bwysig cofio bod unigolion yn fodau cymdeithasol a bod arnyn nhw angen profi bywyd mewn cyd-destun cymdeithasol.
Faint o ‘amser sgrin’ sydd gennych chi mewn diwrnod? A oes angen i chi wneud mwy o weithgarwch corfforol? Ymchwiliwch a dewiswch dri ymarferiad y byddech chi'n gallu eu gwneud bob awr i dorri ar yr amser rydych chi'n ei dreulio yn eistedd.
1/11
Mae iechyd corfforol yn gysylltiedig â bod yn weithgar a dod yn ffit yn gorfforol. Mae bod yn ffit yn gorfforol yn helpu unigolion i wneud y gweithgareddau maen nhw'n dymuno eu gwneud. Gall methu gwneud y pethau rydyn ni wedi dewis eu gwneud gael effaith ar ein hwyliau a'n llesiant cyffredinol. Felly, mae angen lefel o ffitrwydd corfforol ar bawb er mwyn gallu cymryd rhan mewn bywyd a'i fwynhau.
Gellir cymharu'r corff dynol â char; mae angen tanwydd arno a gwaith cynnal er mwyn iddo weithio.
Ni fyddai disgwyl i gar gychwyn a pharhau i fynd heb betrol a heb gael gwasanaeth i sicrhau ei fod yn ddiogel i fod ar y ffordd.
Yn ogystal â gweithgarwch corfforol, mae angen i bawb gael deiet cytbwys, da, iach, amser gorffwys a chwsg o ansawdd.
Gweithgaredd grŵp. Dewch at eich gilydd a meddyliwch am rai syniadau ynghylch sut gall eich athrawon gynyddu eich gweithgarwch corfforol pan fyddwch yn eistedd yn y dosbarth. (Meddyliwch sut gallech eu haddasu i aflonyddu cyn lleied â phosibl.)
Anogwr i'r athro: https://www.nhs.uk/live-well/exercise/sitting-exercises/
1/11
Mae iechyd meddwl yn rhywbeth sy'n effeithio ar fywyd bob dydd. Mae'n cael ei ddylanwadu gan y ffordd mae pawb yn teimlo amdanyn nhw eu hunain, eu hwyliau, meddyliau ac ymddygiad ac yn dylanwadu ar yr holl bethau hyn. Mae'n bwysig cydnabod bod gwahaniaeth rhwng peidio â bod yn iach yn feddyliol a chael problem iechyd meddwl.
Meddyliwch am osod iechyd meddwl da ac iechyd meddwl gwael ar bob pen i linell lorweddol. Bydd profiad pob unigolyn o iechyd meddwl ar y llinell hon yn rhywle ac, wrth gwrs, bydd yn newid yn ystod ein hoes. Gall teimladau o fod dan straen neu'n ofnus am rywbeth (fel sefyll arholiad) ddiflannu unwaith byddwn wedi derbyn y canlyniadau. Pan fydd y teimladau hyn yn aros am amser hirach ac yn ein hatal rhag gwneud y pethau rydyn ni eisiau eu gwneud, gall hyn fod yn arwydd o broblem fwy difrifol.
Mae cael iechyd meddwl da yn cael ei gysylltu â'n llesiant a'n gallu i ymdopi â throeon bywyd. Mae gofalu am ein hiechyd meddwl yn ein helpu i ddatblygu'r gwydnwch i fownsio'n ôl ar ôl amser o drallod neu straen ac i fwrw ymlaen â'n bywydau yn y ffordd rydyn ni'n dymuno ei wneud.
Meddyliwch am eich iechyd meddwl eich hun a rhowch gynnig ar yr arolwg sydyn hwn i ddysgu rhagor amdano:
https://www.mentalhealth.org.uk/your-mental-health/good-mental-health-survey
1/11
Hunan-barch a hunanddelwedd
Mae hunan-barch yn arwydd o iechyd meddwl unigolyn. Mae'n gysylltiedig â'r gwerth mae unigolion yn ei roi arnyn nhw eu hunain a gall fod yn ddinistriol pan fydd ar y ddau begwn; un ai gwael iawn neu llawer gormod. Mae angen cydbwysedd er mwyn i hunan-barch fod yn agwedd iach ym mywyd unrhyw un a gellir helpu hyn drwy fabwysiadu safbwynt realistig.
Mae hunanddelwedd yn gysylltiedig â lefelau hunan-barch. Gall canfyddiad yr unigolyn o’i ymddangosiad corfforol effeithio ar ei hunan-barch drwy ei leihau, neu roi hwb iddo, yn dibynnu ar farn unigolion am y ffordd maen nhw’n edrych i unigolion eraill. Os yw unigolion yn anhapus am y ffordd maen nhw'n edrych, mae hyn yn effeithio ar iechyd a llesiant cyffredinol drwy effeithio ar faint o hyder sydd ganddyn nhw wrth ryngweithio gydag eraill. Gall hyn gael effaith ar yr hwyliau a chreu cylch dieflig, os byddwn yn encilio o leoliadau cymdeithasol, yn aml bydd gennyn ni hyd yn oed llai o hyder.
Gall gweithgarwch corfforol gael effaith gadarnhaol ar hunan-barch a hwyliau drwy roi ymdeimlad o reolaeth i'r unigolyn. Mae'r fenter 'Couch to 5k', sy'n cael ei chefnogi gan y GIG, yn un enghraifft o hyn. Gall gosod nodau bach, realistig y gellir eu cyflawni i gynyddu gweithgarwch corfforol dros amser, arwain at ymdeimlad o gyflawniad. Mae hefyd yn meithrin gwydnwch i ymdopi â'r pethau sy'n achosi straen mewn bywyd yn ogystal â helpu i feithrin boddhad ag ymddangosiad cyffredinol.
1/11
Gorbryder ac iselder
Yn ogystal â newid siâp y corff, mae gweithgarwch corfforol hefyd yn gallu ysgogi newidiadau mewnol. Mae cydbwysedd cemegol y corff yn newid pan fyddwn yn ymarfer a bydd endorffinau yn cael eu rhyddhau sy'n gwneud i unigolion deimlo'n dda. Mae hyn yn cael effaith ar yr hwyliau, ac yn ogystal â rhoi hwb o egni, mae'n lleihau pryder ac yn helpu i wella cwsg.
Gall y ffactorau hyn effeithio ar fathau o salwch meddwl fel gorbryder ac iselder. Mae salwch niwrotig, fel gorbryder ac iselder, yn rhannol o ganlyniad i newidiadau cemegol yn yr ymennydd. Gall y newidiadau cemegol cadarnhaol sy'n digwydd wrth wneud ymarfer corff helpu i leddfu hwyliau gwael a'r straen sy'n gysylltiedig â salwch meddwl.
Mae cyflwyno gweithgarwch corfforol fel rhan rheolaidd o fywyd bob dydd yn helpu i leihau tensiwn a rhwystredigaeth. Bydd hyn yn ei dro yn helpu'r corff a'r meddwl i ymdopi ag amseroedd sy’n achosi straen, pan ac os byddan nhw'n codi.
Gall gweithgarwch corfforol helpu i symud y pwyslais o feddyliau nad ydyn nhw'n rhai defnyddiol ac sy'n bwydo teimladau o orbryder neu iselder. Heblaw am y newidiadau cemegol sy'n digwydd yn y corff, gall hefyd roi safbwynt gwahanol ar fywyd. Mae bod yn ymwybodol ofalgar wrth gymryd rhan yn y gweithgaredd yn dod ag ymdeimlad o lonyddwch, sy'n galluogi unigolion i edrych ar bethau yn fwy gwrthrychol. Mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar iechyd meddwl a llesiant gan ei fod yn helpu unigolion i deimlo bod ganddyn nhw fwy o reolaeth a'u bod yn gallu rheoli eu hwyliau drwy herio neu anwybyddu teimladau nad ydyn nhw'n rhai defnyddiol.
1/11
Ymddygiad eisteddog
Gall ymddygiad eisteddog gael effaith negyddol ar iechyd meddwl a llesiant. Ymddygiad eisteddog yw pan fydd lefelau isel o egni yn cael eu defnyddio ar gyfer y gweithgaredd dan sylw. Yn amlach na pheidio, mae'r math hwn o ymddygiad yn gysylltiedig ag ‘amser sgrin’: y defnydd o setiau teledu, gliniaduron, tabledi, ffonau symudol ac ati. Mae rhyngweithio gyda'r dyfeisiau hyn fel arfer yn digwydd wrth eistedd ac felly does dim angen symud llawer. Gall llenwi'r diwrnod gyda sawl awr o ymddygiad eisteddog ddod yn broblem. Mae'n effeithio ar iechyd corfforol gan leihau ffitrwydd cardiofasgwlar a chyfradd fetabolaidd, a gall hyn arwain at fagu pwysau.
Gall anweithgarwch hefyd effeithio ar iechyd meddwl unigolyn. Mae llai o lesiant a mwy o ymdeimlad o drallod yn gysylltiedig ag ymddygiad eisteddog. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd yn digwydd mewn arwahanrwydd cymdeithasol. Gall hyn effeithio ar yr hwyliau a hunanwerth, a gall arwain at ddatblygu salwch meddwl fel iselder. Mae lleihau faint o amser sy'n cael ei dreulio yn eistedd, yn y gwaith neu yn ystod amser hamdden, yn gallu cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl drwy wella ein lefelau egni a'n gwneud yn fwy effro.
1/11
Gwybyddiaeth
Gwybyddiaeth yw'r gallu i feddwl. Mae'n ymwneud â phrosesau fel canolbwyntio a sylwi, sgiliau rhesymu, y gallu i gydbwyso gwybodaeth er mwyn dod i benderfyniadau, y cof ac iaith ac ati. Mae gallu ym maes gwybyddiaeth yn agwedd hanfodol ar ein bywydau bob dydd ac yn ein galluogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd fel dysgu.
Mae astudiaethau o blant wedi dangos cysylltiad rhwng gweithgarwch corfforol rheolaidd a gwell gwybyddiaeth. Gall newidiadau ffisiolegol sy'n digwydd yn y corff wrth ymarfer gael effaith gadarnhaol ar wybyddiaeth myfyrwyr. Mae cynnydd yn yr ocsigen yn y gwaed a chynnydd yn y llif gwaed i'r ymennydd yn helpu i egluro pethau gan alluogi unigolion i feddwl yn fwy clir. Ochr yn ochr â hyn, mae rhyngweithiad cemegol ychwanegol yn digwydd: mae'r ymennydd yn synhwyro moment o straen wrth ymarfer ac yn gwrthbwyso hyn drwy gynhyrchu protein sy'n amddiffyn yr ymennydd. Mae gan y protein hwn swyddogaeth ‘ailosod’ hefyd ac mae'n atgyweirio'r niwronau sy'n gysylltiedig â'r cof.
Mae'r rhyngweithiadau hyn yn gwneud unigolyn yn fwy effro a sylwgar ac yn gwella sgiliau rhesymu. Mae'n hawdd gwneud y cysylltiad rhwng hyn a’i effaith ar wybyddiaeth. Mae gweithgarwch corfforol yn arwain at well ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth, yn gwella’r gallu i ganolbwyntio ac yn arwain at ganlyniadau academaidd gwell.
1/11
Gosodwch nod CAMPUS (Cyrraeddadwy, Amserol, Mesuradwy, Perthnasol, Uchelgeisiol, Synhwyrol) i'ch hun yn gysylltiedig â'ch lefelau gweithgarwch corfforol presennol. Er enghraifft, ‘Ddydd Mawrth rydw i am ddod oddi ar y bws un arhosfan yn gynt a cherdded gweddill y ffordd’ neu ‘Rydw i am wneud yn siŵr fy mod yn cael pryd da a gorffwys ar ôl mynd i'r gampfa ddydd Sadwrn’.
1/11
Er bod cysylltiad cadarnhaol rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl, dylid ychwanegu gair o rybudd i roi darlun cyflawn. Dangoswyd bod goblygiadau negyddol i'r gyd-ddibyniaeth rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl ar rai adegau.
Gall rhai unigolion ymgolli'n llwyr mewn ymarfer corff. Gall hyn arwain at gydbwysedd afiach rhwng hamdden, gwaith a hunanofal. Pan fydd ymarfer corff yn dod yn obsesiwn i unigolion gall arwain at deimlad o golli rheolaeth wrth i'r drefn ymarfer gymryd drosodd. Mae'r math hwn o ymddygiad nid yn unig yn cael effaith niweidiol ar y corff (fel niwed i gymalau sy'n cynnal pwysau), gall hefyd achosi straen, gorbryder a gorflinder wrth i'r pwysau i ymarfer ddod yn llethol. Gall ymarfer corff tymor byr, arddwysedd uchel, fod yn niweidiol i'r hwyliau, ond dangoswyd bod iechyd meddwl da yn gysylltiedig â threfn ymarfer corff arddwysedd cymhedrol tymor canolig a thymor hir.
Mae'r arddwysedd uchel hwn yn cael ei gynnwys fel rhan o hyfforddiant athletwyr elît. Mae'r drefn hyfforddiant benodol a ddatblygwyd ar gyfer athletwyr ar y lefel hwn yn hanfodol i ddatblygu'r dygnwch sydd ei angen ar y cae chwarae. Fodd bynnag, gall arwain at hwyliau gwael pan fydd ganddyn nhw lai o amser i adfer. Gall y pwysau i berfformio wrth hyfforddi ac ar y cae arwain at deimladau o straen a phryderon am berfformiad.
Gall mathau eraill o ymddygiad sy'n gysyllltiedig â gweithgarwch corfforol mwy eithafol hefyd effeithio ar iechyd meddwl. Gall y defnydd o steroidau i wella gallu'r corff i hyfforddi hefyd gael effaith negyddol ar iechyd meddwl. Mae'r sylweddau hyn wedi cael eu cysylltu â newidiadau yn hwyliau unigolion fel anniddigrwydd ac ymddygiad manig, sy'n gysylltiedig â chymryd risg. Hefyd, gwelwyd cysylltiad rhwng symptomau iselder â defnyddwyr sy'n rhoi'r gorau i ddefnyddio steroidau ynghyd â symptomau seicotig (sy'n gallu arwain at ymddygiad nad yw'n bosibl ei ragweld).
1/11
Roedd Dan ym mlwyddyn 9 pan ddechreuodd deimlo'n eithaf pryderus am bethau weithiau; beth oedd ei ffrindiau wir yn ei feddwl amdano? Beth petai'n methu ei arholiadau? A oedd o unrhyw ddefnydd gwirioneddol i unrhyw un? Daeth yn encilgar a dechreuodd dreulio mwy a mwy o amser ar ei ben ei hun yn ei ystafell wely yn gwylio ffilmiau a YouTube. Roedd yn arfer mwynhau chwarae pêl-droed mewn tîm ac roedd ei Dad yn fodlon mynd ag ef i'r gemau, ond penderfynodd roi'r gorau iddi y llynedd gan nad oedd yn teimlo fel mynd.
Anfonodd Jon, un o ffrindiau Dan, neges destun ato un diwrnod yn ei wahodd i ddod i chwarae mewn twrnament pump-bob-ochr. Cytunodd Dan er ei fod braidd yn anfoddog. Yn ystod y twrnament ac ar ei ôl, sylwodd Dan ei fod yn teimlo'n llai pryderus ac roedd yn mwynhau'r rhyngweithio gydag aelodau'r tîm ac ennill y twrnament! Penderfynodd ymuno â thîm pump-bob-ochr rheolaidd a chwaraeodd bob wythnos gyda Jon. Ar ôl ychydig fisoedd sylwodd ei fod yn teimlo'n llawer gwell amdano ei hun ac roedd yn llawer hapusach. Sylwodd ei fod yn fwy hyderus, yn gallu ymgysylltu'n well yn yr ysgol, dechreuodd fynd i grŵp ieuenctid, gwnaeth ffrindiau newydd ac roedd yn poeni llai am farn unigolion eraill amdano.
Rhestrwch y ffyrdd gwnaeth y pêl-droed pump-bob-ochr helpu Dan.
Trafodwch sut byddai bywyd Dan wedi gallu edrych 2 flynedd yn ddiweddarach pe na bai wedi dechrau mynd i'r gweithgaredd pump-bob-ochr erbyn Blwyddyn 11.
1/11
Profwyd bod cysylltiad cyd-ddibynnol rhwng gweithgarwch corfforol ac iechyd meddwl. Mae cadw eich hun yn iach yn gorfforol yn gwella gwydnwch a strategaethau ymdopi wrth reoli iechyd meddwl. Er bod angen cydnabod y risgiau sy’n gysylltiedig â dilyn trefn gweithgarwch corfforol eithafol, i'r mwyafrif o unigolion gall ymarfer corff cymhedrol fod yn ddull ataliol sy'n helpu i gynnal iechyd meddwl da. Hefyd, gall helpu'r rheini sydd â salwch meddwl i'w reoli, gan dynnu eu sylw, gwella'r hwyliau a rhoi ymdeimlad o gyflawniad a rheolaeth iddyn nhw.