An individual’s circumstances can affect development and well-being. These circumstances are also known as life events. Life events can be experienced at any life stage and can be both predictable and unpredictable.
Either way, they can bring a considerable amount of stress, which can contribute to illness.
Look at the images below and identify the different life events that an individual may experience. Type your answer into the text box and click the eye to reveal the correct answer.
Gall amgylchiadau unigolyn effeithio ar ddatblygiad a llesiant. Digwyddiadau bywyd yw'r term arall a ddefnyddir ar gyfer yr amgylchiadau hyn. Gallwch gael digwyddiadau bywyd ar unrhyw adeg mewn bywyd a gallant fod yn rhagweladwy ac yn anrhagweladwy.
Y naill ffordd neu'r llall, gallant achosi llawer o straen, a all gyfrannu at salwch.
Edrychwch ar y delweddau isod a nodwch y digwyddiadau bywyd gwahanol y gall rhywun eu cael. Llusgwch a gollyngwch y digwyddiad bywyd cywir i'r ddelwedd gyfatebol.
Expected life events are those we can predict will happen, so they will not come as a surprise to the individual. Regardless of whether or not they are expected, they can have a positive or negative impact on the individual’s well-being, depending on the type of event.
Digwyddiadau disgwyliedig bywyd yw’r rhai y gallwn ni eu rhagweld, felly fyddan nhw ddim yn synnu’r unigolyn. Yn dibynnu ar y math o ddigwyddiad, gall naill ai gael effaith gadarnhaol neu negyddol ar lesiant unigolyn, ni waeth a yw’n ddisgwyliedig ai peidio.
Hazel is 65 years old and has just retired. She has worked for the same company for the last 22 years.
Discuss the social, intellectual and emotional effects Hazel’s retirement could have on her development.
Mae Hazel yn 65 mlwydd oed ac mae newydd ymddeol. Mae wedi gweithio i'r un cwmni ers 22 o flynyddoedd.
Trafodwch yr effeithiau cymdeithasol, deallusol ac emosiynol y gallai ymddeoliad Hazel eu cael ar ei datblygiad.
Barry is 42 years old. He has recently split up with his wife and they will be getting a divorce. They have two children together aged 6 years and 9 years.
Discuss the social, emotional and intellectual effects that Barry’s divorce could have on his development.
Mae Barry yn 42 oed. Yn ddiweddar, gwahanodd oddi wrth ei wraig a byddant yn cael ysgariad. Mae ganddynt ddau o blant 6 a 9 oed.
Trafodwch yr effeithiau deallusol, emosiynol a chymdeithasol y gallai ysgariad Barry eu cael ar ei ddatblygiad.
Clara is 28 years old and is married to Chris. She is 2 months pregnant with her first child.
Discuss the physical, social and emotional effects that Clara’s pregnancy could have on her development.
Mae Clara yn 28 oed ac yn briod â Chris. Mae'n feichiog ers dau fis gyda'i phlentyn cyntaf.
Trafodwch yr effeithiau corfforol ac emosiynol y gallai beichiogrwydd Clara eu cael ar ei datblygiad.
Haydn and Beth are both in their thirties and have been together for over 5 years. They have recently married.
Discuss the social and emotional effects that marriage could have on their development.
Mae Haydn a Beth yn eu tridegau ac wedi bod gyda'i gilydd am fwy na phum mlynedd. Yn ddiweddar, gwnaethant briodi.
Trafodwch yr effeithiau cymdeithasol ac emosiynol y gallai priodas eu cael ar eu datblygiad.
Gwen is 74 years old. She has recently lost her husband, who she was with for 50 years.
Discuss the physical, emotional and social effects on development that Gwen could experience due to the loss of her husband.
Mae Gwen yn 74 oed. Yn ddiweddar, collodd ei gŵr, yr oedd wedi bod gydag ef ers 50 mlynedd.
Trafodwch yr effeithiau corfforol, emosiynol a chymdeithasol ar ddatblygiad y gallai Gwen eu hwynebu ar ôl colli ei gŵr.
Dylan is 19 years old and was recently involved in a motorbike accident. He is now paralysed from the waist down and will need to be cared for, for the rest of his life. He was very active and enjoyed playing rugby and taking part in martial arts.
Discuss the physical, emotional and social effects his new disability could have on his development.
Mae Dylan yn 19 oed ac yn ddiweddar bu mewn damwain beic modur. Bellach mae wedi ei barlysu o'i ganol i lawr a bydd angen i rywun ofalu amdano am weddill ei fywyd. Roedd yn arfer bod yn egnïol iawn ac roedd yn mwynhau chwarae rygbi a chymryd rhan mewn crefftau ymladd.
Trafodwch yr effeithiau corfforol, emosiynol a chymdeithasol y gallai ei anabledd newydd eu cael ar ei ddatblygiad.
Lana is 10 years old. She has recently moved to a new area, which is over 50 miles away from her old home, but closer to her grandparents.
Discuss the intellectual, emotional and social effects moving home could have on her development.
Mae Lana yn 10 oed. Yn ddiweddar, symudodd i ardal newydd, dros 50 milltir i ffwrdd o'i hen gartref, ond yn agosach at ei mam-gu a'i thad-cu.
Trafodwch yr effeithiau deallusol, emosiynol a chymdeithasol y gallai symud tŷ eu cael ar ei datblygiad.