Care and support for vulnerable adults includes:
Mae gofal a chymorth ar gyfer oedolion agored i niwed yn cynnwys:
Day care
Day care for vulnerable adults are designed to provide social and recreational activities, which will support their physical and emotional well-being. These services normally run between 8am and 6pm and can alleviate the stress for the main caregivers as they can focus on other commitments, knowing that their loved one is being looked after. The individual will gain companionship, stimulation and a sense of independence by attending day care. It is important to consider the individual’s interests and needs when choosing appropriate day care.
Watch the film: https://socialcare.wales/resources/good-work---gavin-watkins-accesses-care-and-support-services-for-dementia
Residential care
Residential care homes offer their residents personal care such as bathing, feeding and dressing. They do not offer medical care. Individuals who live in a care home are no longer able to, safely, live alone. They will gain companionship from living with others and will be stimulated by the planned activities. It is important that the care home understands the individual’s values, preferences and needs in order to ensure that they deliver individual-centred care.
Nursing home care
Nursing homes have all of the same services as a residential care home with the addition of having registered nurses available around the clock, many will also have a dementia expert. These are often the best option for individuals with complex medical conditions, as the nurses can monitor their condition closely and provide appropriate medical treatment when it is needed. They also have access to specialist medical equipment making the individual’s life more comfortable.
Watch the film: https://www.youtube.com/watch?v=UfoSv_MCRBo
Nursing care – at home
Nursing care at home needs to be delivered by a trained professional such as an RGN, speech, occupational or physical therapist. The care may be short-term; for instance, follow on treatment after a stay in hospital, or long-term for a chronical medical condition. The level of care can differ depending on the need of the individual, from occasional visits to carry out a specific medical service, to around the clock care. The benefits to the individual for this type of care is that they are able to retain a certain amount of independence and can remain in their own home.
Supported living
Supported living allows an individual to live in their own home and retain a level of independence whilst being supported by a care worker to be able to live as ordinary a life as possible in safety. The individual’s needs will be addressed, and a care package will be put in place. The regularity of the care will be decided after assessment along with the types of support that will be needed, such as shopping, personal care, managing money, cooking, and social and recreational activities.
Watch the film: https://www.youtube.com/watch?v=DMqLuj87Rv4
Adult placement/shared lives
Shared lives schemes are for adults with learning disabilities or mental health problems. They are matched with an approved carer and the carer offers the support the individual needs as well as sharing their home and social life. Often the individual goes to live with the carer, but they could also be a regular daytime/night time visitor. These schemes allow the individual to develop the skills they need to live independently and helps them integrate into society.
Watch the film: https://www.youtube.com/watch?v=9_6PHIcFEGA
Home care
Home care comes in many forms. It can cover personal care, housework, preparing meals, companionship or medical support. The level of support can also vary widely from 15-minute visits to twenty-four-hour assistance. Individuals benefit from staying in the comfort of their own home, and can ensure that the care is tailored to their specific needs.
Watch the film: https://socialcare.wales/resources/why-is-registration-important-case-study-dylans-story
Gofal dydd
Mae gofal dydd ar gyfer oedolion agored i niwed wedi'i gynllunio i ddarparu gweithgareddau cymdeithasol a hamdden, a fydd yn cefnogi eu llesiant corfforol ac emosiynol. Mae'r gwasanaethau hyn fel arfer yn cael eu cynnal rhwng 8am a 6pm ac maen nhw'n gallu lleihau straen ar gyfer y prif ofalwyr gan eu bod yn gallu canolbwyntio ar ymrwymiadau eraill, gan wybod bod eu hanwyliaid yn derbyn gofal. Bydd yr unigolyn yn cael cwmni, ysgogiad ac ymdeimlad o annibyniaeth drwy fynychu gofal dydd. Mae'n bwysig ystyried diddordebau ac anghenion yr unigolyn wrth ddewis gofal dydd addas.
Gwyliwch y ffilm: https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/gwaith-da---mae-gavin-watkins-yn-defnyddio-gwasanaethau-gofal-a-chymorth-ar-gyfer-dementia
Gofal preswyl
Mae cartrefi gofal preswyl yn cynnig gofal personol i'w preswylwyr, fel ymolchi, bwydo a gwisgo. Dydyn nhw ddim yn cynnig gofal meddygol. Dydy unigolion sy'n byw mewn cartrefi gofal ddim yn gallu byw'n ddiogel ar eu pen eu hunain mwyach. Byddan nhw'n cael cwmni drwy fyw gydag eraill ac yn cael eu hysgogi gan y gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio. Mae'n bwysig bod y cartref gofal yn deall gwerthoedd, dewisiadau personol ac anghenion yr unigolyn er mwyn sicrhau ei fod yn cyflenwi gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn.
Gofal cartref nyrsio
Mae cartrefi nyrsio yn cynnig yr un gwasanaethau â chartrefi gofal preswyl ond mae nyrsys cofrestredig ar gael yno drwy'r amser hefyd, a bydd arbenigwr dementia yn llawer ohonyn nhw hefyd. Yn aml iawn, y rhain yw'r dewis gorau ar gyfer unigolion â chyflyrau meddygol cymhleth, gan fod y nyrsys yn gallu monitro eu cyflwr yn agos a darparu triniaeth feddygol briodol pan fo'r angen. Mae cyfarpar meddygol arbenigol ar gael yno hefyd gan wneud bywyd yr unigolyn yn fwy cyfforddus.
Gwyliwch y ffilm: https://www.youtube.com/watch?v=UfoSv_MCRBo
Gofal nyrsio – yn y cartref
Mae angen i ofal nyrsio yn y cartref gael ei gyflenwi gan weithiwr proffesiynol hyfforddedig fel nyrs gofrestredig (RGN), therapydd lleferydd, galwedigaethol neu gorfforol. Gall fod yn ofal tymor byr; er enghraifft, triniaeth ddilynol ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, neu driniaeth dymor hir am gyflwr meddygol cronig. Gall lefel y gofal fod yn wahanol yn dibynnu ar angen yr unigolyn, o ymweliadau achlysurol i gynnal gwasanaeth meddygol penodol, i ofal ddydd a nos. Manteision y math hwn o ofal i'r unigolyn yw ei fod yn cadw ei annibyniaeth i ryw raddau ac yn gallu aros yn ei gartref ei hun.
Byw â chymorth
Mae byw â chymorth yn galluogi unigolyn i fyw yn ei gartref ei hun a chadw ei annibyniaeth i ryw raddau gan dderbyn cymorth gan weithiwr gofal sy'n ei alluogi i fyw bywyd mor arferol â phosibl yn ddiogel. Bydd anghenion yr unigolyn yn cael eu bodloni, a bydd pecyn gofal yn cael ei roi ar waith. Penderfynir pa mor rheolaidd ddylid darparu’r gofal yn dilyn asesiad, ynghyd â'r math o gymorth fydd ei angen, fel siopa, gofal personol, rheoli arian, coginio, a gweithgareddau cymdeithasol a hamdden.
Gwyliwch y ffilm: https://www.youtube.com/watch?v=DMqLuj87Rv4
Lleoli oedolyn/rhannu bywydau
Mae cynlluniau 'rhannu bywydau' ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu neu broblemau iechyd meddwl. Maen nhw'n cael eu paru â gofalwr wedi'i gymeradwyo ac mae'r gofalwr yn cynnig y cymorth sydd ei angen ar yr unigolyn yn ogystal â rhannu ei gartref a'i fywyd cymdeithasol. Yn aml, bydd yr unigolyn yn symud i fyw gyda'r gofalwr, ond gallai’r gofalwr hefyd fod yn ymwelydd rheolaidd yn y dydd/nos. Mae'r cynlluniau hyn yn galluogi'r unigolyn i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arno i fyw'n annibynnol ac maen nhw'n ei helpu i integreiddio i gymdeithas.
Gwyliwch y ffilm: https://www.youtube.com/watch?v=9_6PHIcFEGA
Gofal cartref
Mae sawl math o ofal cartref. Gall gynnwys gofal personol, gwaith tŷ, paratoi prydau, cwmnïaeth neu gymorth meddygol. Gall lefel y cymorth amrywio'n fawr hefyd o ymweliadau 15-munud i gymorth 24-awr. Bydd unigolion yn elwa ar aros yng nghysur eu cartref, a gallan nhw sicrhau bod y gofal yn cael ei deilwra i'w hanghenion penodol.
Gwyliwch y ffilm: https://gofalcymdeithasol.cymru/adnoddau/why-is-registration-important-case-study-dylans-story
Hint 1: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Awgrymiadau 1: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Read the needs of each individual and then offer advice on the types of care that would suit them.
Darllenwch anghenion pob unigolyn ac yna cynigiwch gyngor ar y mathau o ofal fyddai'n addas ar eu cyfer.
QuestionCwestiwn | Your AnswerEich Ateb | Suggested AnswerAteb Awgrymedig |
---|
Hint 2: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.
Awgrymiadau 2: Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipisicing elit. Modi est praesentium earum exercitationem, accusantium molestiae asperiores reiciendis aliquam doloribus, delectus, cumque odio omnis rem, aliquid et. Quisquam eius, incidunt ab.