The role of radio and cinema during the war
Read the statements and decide whether they are true or false. For each false answer you need to supply the correct statement and for every true answer you need to state why it is correct.
Rôl y radio a’r sinema yn ystod y rhyfel
Darllenwch y gosodiadau a phenderfynwch a ydynt yn gywir neu’n anghywir. Ar gyfer pob ateb anghywir mae angen i chi ddarparu’r gosodiad cywir, ac ar gyfer pob ateb cywir mae angen i chi nodi pam ei fod yn gywir.
Statement | True or False? | Correction and Detail |
---|---|---|
The Ministry of Information was set up to ensure propaganda and censorship were carried out effectively. |
|
|
True
|
3000 people worked for the Ministry of Propaganda by the end of the war.
|
|
The Ministry of Information had control of the BBC during the war. |
|
|
True
|
But it hardly ever interfered.
|
|
The radio was an effective way of keeping up morale. |
|
|
True
|
There were 9 million radio licence holders which meant that almost every family had access to a radio.
|
|
Newsreaders refused to introduce themselves before broadcasting. |
|
|
False
|
They did give their names in order for the public to become used to their voices and be able to detect potential enemy impersonations.
|
|
‘It’s That Man Again’ was a hit comedy programme that helped keep up morale. |
|
|
True
|
It poked fun at Hitler and Germany as well as the British way of dealing with the war.
|
|
‘Music while you work’ was piped into factories. |
|
|
True
|
The government felt it would help raise morale in industry.
|
|
Before the war, cinema was a very popular form of entertainment. During the war its popularity declined. |
|
|
False
|
It increased. In 1938, before the war, around 980 million tickets were sold. In 1945 that figure had risen to 1,500 million.
|
|
The Ministry of Information produced comedic films to help raise morale. |
|
|
False
|
They produced short films about coping with the problems of war, such as ‘Fires Were Started’.
|
|
Films that were made had a patriotic tone to them. |
|
|
True
|
Films were very biased and patriotic, such as ’Went the Day Well?’ which showed the Home Guard defeating German troops.
|
|
One of the most famous films of the war was Charles V. |
|
|
False
|
It was Henry V, starring Laurence Olivier which was released just before the D-Day invasion.
|
Datganiad | Cywir neu Anghywir? | Cywiriad a Manylion |
---|---|---|
Sefydlwyd y Weinyddiaeth Wybodaeth er mwyn sicrhau bod propaganda a sensoriaeth yn cael eu cyflawni’n effeithiol. |
|
|
Cywir
|
Roedd 3000 o bobl yn gweithio i’r Weinyddiaeth Bropaganda erbyn diwedd y rhyfel.
|
|
Y Weinyddiaeth Wybodaeth oedd yn rheoli’r BBC yn ystod y rhyfel. |
|
|
Cywir
|
Ond prin y byddai’n ymyrryd.
|
|
Roedd y radio’n ffordd effeithiol o gynnal morâl. |
|
|
Cywir
|
Roedd gan 9 miliwn o bobl drwydded radio, a oedd yn golygu bod bron pob teulu yn gallu gwrando ar y radio.
|
|
Roedd darllenwyr newyddion yn gwrthod cyflwyno eu hunain cyn darlledu. |
|
|
Anghywir
|
Roeddent yn rhoi eu henwau er mwyn i’r cyhoedd ddod i arfer a’u lleisiau a gallu adnabod unrhyw achosion posibl o ddynwared gan y gelyn.
|
|
Roedd ‘It’s That Man Again’ yn rhaglen gomedi boblogaidd a oedd yn helpu i gynnal morâl. |
|
|
Cywir
|
Roedd yn gwneud hwyl am ben Hitler a’r Almaen yn ogystal â ffordd Prydain o ddelio â’r rhyfel.
|
|
Roedd ‘cerddoriaeth wrth i chi weithio’ yn cael ei chwarae mewn ffatrïoedd. |
|
|
Cywir
|
Roedd y llywodraeth o’r farn y byddai’n helpu i godi morâl mewn diwydiant.
|
|
Cyn y rhyfel, roedd y sinema’n fath poblogaidd iawn o adloniant. Yn ystod y rhyfel, aeth yn llai poblogaidd. |
|
|
Anghywir
|
Daeth yn fwy poblogaidd. Yn 1938, cyn y rhyfel, gwerthwyd tua 980 miliwn o docynnau. Yn 1945, gwerthwyd 1,500 miliwn.
|
|
Roedd y Weinyddiaeth Wybodaeth yn cynhyrchu ffilmiau comedi er mwyn help i godi morâl. |
|
|
Anghywir
|
Roedd yn cynhyrchu ffilmiau byrion am ymdopi a phroblemau rhyfel, er enghraifft ‘Fires Were Started’.
|
|
Roedd naws wladgarol i’r ffilmiau a oedd yn cael eu cynhyrchu. |
|
|
Cywir
|
Roedd y ffilmiau’n wladgarol iawn ac yn llawn tuedd, er enghraifft ‘Went the Day Well?’ a oedd yn dangos Gwarchodlu Cartref yn trechu byddin yr Almaen.
|
|
Un o ffilmiau enwocaf y rhyfel oedd Charles V. |
|
|
Anghywir
|
Henry V oedd enw’r ffilm. Roedd Laurence Olivier yn actio ynddi a chafodd ei rhyddhau ychydig cyn glaniadau D-Day.
|