Read the text and highlight sections using the 'Add selection to notes' button below. You should then organise your notes into sections; problem, solution or impact.

Darllenwch y testun ac uwcholeuwch ddarnau gan ddefnyddio'r botwm 'Ychwanegwch ddewis i'r nodiadau' isod. Dylech drefnu'ch nodiadau i mewn i adrannau; problem, datrysiad ac effaith.

The SA (Sturmabteilung) had been a key part in the growth of the Nazis and by 1933 they were well known across Germany. Most of the SA were working class people who favoured the socialist views of the Nazi programme and hoped that Hitler would introduce reforms to help the workers. Röhm, the leader of the SA, wanted to incorporate the army into the SA and was disappointed by Hitler’s close relations with wealthy industrialists and army leaders. Röhm had strong ideas about how the government should operate in order to bring about greater equality. Clearly, this was a threat to Hitler. Hitler’s personal bodyguard, the SS (Schutzstaffel) led by Himmler, wished to break away from the SA, while Goering (Head of the Gestapo) wanted to lead the army himself and saw Röhm as a threat. In June 1934, Himmler informed Hitler that Röhm was about to seize power. Hitler now had to choose between the SA and the army. On 30th June 1940, Röhm and the main SA leaders were shot dead by members of the SS in what became known as ‘The Night of the Long Knives’. In total, around 400 were murdered in the purge. The event was seen as a turning point for Hitler. He eradicated potential opponents whilst securing the support of the all-important army, who swore their loyalty to Hitler following the death of Hindenburg in August 1934. Aside from strengthening Hitler’s position and relegating the remainder of the SA, it was also clear that fear and terror would now play significant roles in Hitler’s strategy.

Roedd yr SA (Sturmabteilung) wedi bod yn rhan allweddol o dwf y Natsïaid, ac erbyn 1933 roeddent yn adnabyddus iawn ledled yr Almaen. Roedd y rhan fwyaf o’r SA yn bobl o’r dosbarth gweithiol a oedd yn ffafrio safbwyntiau sosialaidd rhaglen y Natsïaid ac yn gobeithio y byddai Hitler yn cyflwyno diwygiadau i helpu’r gweithwyr. Roedd Röhm, arweinydd yr SA, am ymgorffori’r fyddin yn yr SA, ac roedd wedi'i siomi bod gan Hitler berthynas agos â diwydianwyr cyfoethog ac arweinwyr y fyddin. Roedd gan Röhm syniadau cryf am y ffordd y dylai’r llywodraeth weithredu er mwyn sicrhau mwy o gydraddoldeb. Yn amlwg, roedd hyn yn fygythiad i Hitler. Roedd gwarchodlu personol Hitler, yr SS (Schutzstaffel) a oedd yn cael ei arwain gan Himmler, yn dymuno torri’n rhydd o’r SA, tra oedd Goering (Pennaeth y Gestapo) am arwain y fyddin ei hun ac roedd yn gweld Röhm fel bygythiad. Ym mis Mehefin 1934, dywedodd Himmler wrth Hitler fod Röhm ar fin cipio grym. Nawr, roedd yn rhaid i Hitler ddewis rhwng yr SA a'r fyddin. Ar 30 Mehefin 1940, cafodd Röhm a phrif arweinwyr yr SA eu saethu’n farw gan aelodau o’r SS mewn digwyddiad sydd bellach yn cael ei alw’n ‘Noson y Cyllyll Hirion’. Cafodd tua 400 o bobl eu llofruddio i gyd. Roedd y digwyddiad yn cael ei ystyried yn drobwynt i Hitler. Llwyddodd i gael gwared ar wrthwynebwyr posibl gan sicrhau cefnogaeth y fyddin hollbwysig, a dyngodd lw o deyrngarwch i Hitler ar ôl marwolaeth Hindenburg ym mis Awst 1934. Ar wahân i atgyfnerthu safle Hitler a diraddio gweddill yr SA, roedd hefyd yn amlwg y byddai arswyd a braw bellach yn chwarae rhan arwyddocaol yn strategaeth Hitler.

Suggested response

Problem

  • Goering sees Röhm as threat
  • Himmler wants to break away from SA
  • Röhm potential threat to Hitler
  • SS shoot main leaders of SA
  • Röhm about to seize power?
  • Lose army support?
  • SA has different aims to Hitler

Solution

  • SS shoot main leaders of SA
  • June 1934
  • Night of the Long Knives
  • 400 killed

Impact

  • Hitler secure – no threat to his leadership
  • Fear and terror become common
  • Himmler, the SS and Goering loyal to Hitler
  • Army loyal to Hitler

Problem

  • Goering yn gweld Röhm fel bygythiad
  • Himmler am dorri’n rhydd o’r SA
  • Röhm yn fygythiad posibl i Hitler
  • Yr SS yn saethu prif arweinwyr yr SA
  • Röhm ar fin cipio grym?
  • Colli cefnogaeth y fyddin?
  • Mae gan yr SA nodau gwahanol i Hitler

Datrysiad

  • Yr SS yn saethu prif arweinwyr yr SA
  • Mehefin 1934
  • Noson y Cyllyll Hirion
  • 400 wedi’u lladd

Effaith

  • Hitler yn ddiogel – dim bygythiad i’w arweinyddiaeth
  • Arswyd a braw yn dod yn gyffredin
  • Himmler, yr SS a Goering yn deyrngar i Hitler
  • Y fyddin yn deyrngar i Hitler