What’s the story?

Select the three analytical statements below which, when combined, best summarise this graph’s overall ‘story’.

Beth yw'r stori?

Dewiswch y tri datganiad dadansoddol isod sydd, gyda'i gilydd, yn rhoi'r crynodeb gorau o 'stori' gyffredinol y graff hwn.

Identifying the elements of a good AO3 response

Read the two responses to the following 5-mark AO3 question

‘Analyse the relationship between precipitation and runoff for the two river basins shown in the graph.’

Decide which is the best response.

After discussing the strengths and weaknesses of each answer, click on the text to reveal an examiner commentary.

Nodi elfennau ymateb AA3 da

Darllenwch y ddau ymateb i'r cwestiwn AA3 canlynol sy'n werth 5 marc

'Dadansoddwch y gydberthynas rhwng dyodiad a dŵr ffo ar gyfer y ddau fasn afon a ddangosir yn y graff.'

Penderfynwch pa ymateb yw'r un gorau.

Ar ôl trafod cryfderau a gwendidau pob ateb, cliciwch ar y testun i ddatgelu sylwadau'r arholwr.

Response A

In river basin A, overland flow starts off very low when precipitation is also low. For example, 20 millimetres of precipitation result in just 2 millimetres of overland flow. The same is also true of river basin B, for example, when precipitation is about 25 millimetres the overland flow value is only 3 millimetres. Later on, there is an increase in overland flow when precipitation increases. The maximum overland flow for river B is 50 millimetres and for river A it is 60 millimetres. No precipitation value greater than 100 millimetres is recorded for either river.

Ymateb A

Ym masn afon A, mae'r llif trostir yn dechrau'n isel iawn pan fo'r dyodiad yn isel hefyd. Er enghraifft, ceir 2 filimedr yn unig o lif trostir yn sgil 20 milimedr o ddyodiad. Mae'r un peth yn wir am fasn afon B, er enghraifft, dim ond tua 3 milimedr o lif trostir a geir pan fydd tua 25 milimedr o ddyodiad. Yn ddiweddarach, ceir cynnydd yn y llif trostir pan fo'r dyodiad yn cynyddu. Uchafswm y llif trostir ar gyfer afon B yw 50 milimedr a'r uchafswm ar gyfer afon A yw 60 milimedr. Ni chofnodir dyodiad o fwy na 100 milimedr (mm) ar gyfer y naill afon na'r llall.

Examiner Commentary Response A

Although this answer makes plentiful use of data, a clear picture of the relationship between precipitation and overland flow is lacking. There is an absence of important terminology (such as the strength and direction of any correlation). Some of the information provided is superfluous and does not help analyse the relationship. For example, little is gained by telling us that precipitation never exceeds 100mm.

Sylwadau'r arholwr - Ymateb A

Er bod yr ateb hwn yn defnyddio cryn dipyn o ddata, nid yw'n rhoi darlun clir o'r gydberthynas rhwng dyodiad a llif trostir. Ni ddefnyddir terminoleg bwysig (fel cryfder a chyfeiriad unrhyw gydberthyniad). Nid oes angen rhywfaint o'r wybodaeth a roddir ac nid yw'n helpu i ddadansoddi'r gydberthynas. Er enghraifft, nid yw'n fuddiol iawn dweud wrthym nad yw'r dyodiad byth yn fwy na 100mm.

Response B

In both river basins, there is a positive correlation between precipitation and overland flow. However, this is only true when precipitation exceeds 20-30mm. Below this level, there is negligible overland flow in both river basins. For higher values, there is a strong linear relationship between precipitation (pp) and overland flow (O.F.) amounts for river basin A. The highest values reached are 98mm of pp and 60mm of O.F. In river B, the correlation appears a little weaker, for example pp of 70mm and 80mm in both cases produces around 50mm of O.F.

Ymateb B

Yn y ddau fasn afon, ceir cydberthyniad cadarnhaol rhwng dyodiad a llif trostir. Fodd bynnag, dim ond pan fo'r dyodiad rhwng 20 a 30mm y mae hyn yn wir. Islaw'r lefel hon, ceir llif trostir dibwys yn y ddau fasn afon. Ar gyfer gwerthoedd uwch, ceir cydberthynas linol gref rhwng y dyodiad (D) a'r llif trostir (Ll.T.) ar gyfer basn afon A. Y gwerthoedd uchaf yw 98mm o D a 60mm o Ll.T. Yn afon B, ymddengys fod y cydberthyniad ychydig yn wannach, er enghraifft mae 70mm ac 80mm o D yn y ddau achos yn cynhyrchu tua 50mm o Ll.T.

Examiner Commentary Response B

This answer makes good use of data but, more importantly, provides a clear picture of the relationship between the two variables for both river basins. Appropriate terminology is used correctly, such as 'positive correlation' and 'linear relationship’. The answer remains well focused throughout on the strength of any relationship. Overall, this is an excellent structured analysis of the data. Note the way abbreviations are used to make the answer more succinct.

Sylwadau'r arholwr - Ymateb B

Mae'r ateb hwn yn defnyddio data yn dda ond, yn bwysicach, mae'n rhoi darlun clir o'r gydberthynas rhwng y ddau newidyn ar gyfer y ddau fasn afon. Mae terminoleg briodol yn cael ei defnyddio'n gywir, fel 'cydberthyniad cadarnhaol' a 'chydberthynas linol'. Mae'r ateb yn canolbwyntio'n dda drwyddi draw ar gryfder unrhyw gydberthynas. Yn gyffredinol, mae hwn yn ddadansoddiad strwythuredig ardderchog o'r data. Noder y ffordd y defnyddir talfyriadau i roi ateb mwy cryno.

Analysing relationships phrase bank

Here are phrases which can be used to analyse and compare relationships. Now see how many analytical phrases of your own you can add in the right hand column.

Then click on the "Show suggested response" button to reveal other possible key words/phrases. Do any of these phrases match your own? Are any different? Add the extra ones in before printing.

Banc ymadroddion gofodol

Dyma ymadroddion y gellir eu defnyddio i ddadansoddi a chymharu cydberthnasau. Nawr ystyriwch sawl ymadrodd dadansoddol y gallwch chi eu hychwanegu at y golofn ar y dde.

Yna cliciwch ar y botwm "Dangos ymateb awgrymedig" i ddatgelu geiriau/ymadroddion allweddol posibl eraill. A oes unrhyw rai o'r ymadroddion hyn yn cyd-fynd â'ch rhai chi? A oes rhai yn wahanol? Ychwanegwch y rhai ychwanegol cyn argraffu.

Key phrases used in previous exercises Can you add any more?
There is a positive correlation
There is a strong linear relationship
The correlation appears a little weaker
There is an anomaly shown
The value reaches a threshold
Ymadroddion gofodol a ddefnyddiwyd mewn ymarferion blaenorol Allwch chi ychwanegu mwy?
Ceir cydberthyniad cadarnhaol
Ceir cydberthynas linol gref
Ymddengys fod y cydberthyniad ychydig yn wannach
Mae yna anomaledd
Mae'r gwerth yn cyrraedd trothwy

Suggested response

Add these words to the right hand column:

  • Only a weak correlation appears to exist
  • The relationship is nonlinear
  • There is a geometric or exponential rise
  • There are many outliers
  • There is a negative correlation
  • The two variables are inversely related
  • As one variable increases the other declines
  • As one variable falls in value the other grows
  • As x increases, Y also increases but only up to a point

Ymateb awgrymedig

Ychwanegwch y geiriau hyn at y golofn ar y dde:

  • Ymddengys mai dim ond cydberthyniad gwan a geir
  • Mae'r gydberthynas yn aflinol
  • Mae cynnydd geometrig neu esbonyddol
  • Mae llawer o allrifau
  • Ceir cydberthyniad negyddol
  • Mae cydberthynas wrthdro rhwng y ddau newidyn
  • Wrth i un newidyn gynyddu mae'r llall yn gostwng
  • Wrth i un newidyn leihau mewn gwerth mae'r llall yn cynyddu
  • Wrth i x gynyddu, mae Y hefyd yn cynyddu ond dim ond hyd at bwynt