Funded by Welsh Goverment

Pum Diwrnod o Ryddid


Y Cefndir

Drama gerdd Gymreig wedi ei hysgrifennu yn 1988 gan Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams.

Mae’r ddrama gerdd yn olrhain hanes y siartwyr yn nhref Llanidloes yn ystod yr 1830au.

Cafodd ei pherfformio gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd gan bobl ifanc Maldwyn.

Mae’r stori wedi ei lleoli yn nhref Llanidloes yn 1839.

Roedd nifer o grwpiau gwleidyddol yno gyda'r gweithwyr yn brwydro yn erbyn y meistri.

Roedd nifer yn cefnogi’r siartwyr a chafwyd chwyldro byr yn y dref lle rheolwyd y dref gan y gweithwyr .

Fe barodd hyn am 5 diwrnod yn unig hyd nes y cafodd y gweithwyr eu bradychu.

Cysgu'n brysur Cysgu'n brysur

Neuadd y Farchnad, Llanidloes

Cân Agoriadol

Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.

  1. Beth a ddysgwn am y bobl sydd yn canu?
  2. Sut awyrgylch mae’r gân yn ei chreu ar ddechrau'r sioe gerdd?
  3. Ydy'r gân wedi ei llwyfannu yn effeithiol yn eich barn chi?

Unawd

Gwrandewch ar yr unawd A’r nos yn cau amdanaf i o’r sioe

Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.

  1. Beth yw swyddogaeth a phwrpas y gân yn eich barn chi?
  2. Sut mae'r symudiadau a'r llwyfannu yn wahanol yn y gân hon o gymharu â'r gân agoriadol.

Corws 1

Mae y corws yma’n dangos y gweithwyr yn dechrau brwydro yn erbyn y rheolwyr.

Sut mae’r gân a’r llwyfannu yn cyfleu teimladau’r bobl?

Corws 2

Cân gan gorws o 'fyddigions'.

Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.

  1. Sut mae naws y gân yn wahanol i Gorws 1?
  2. Sut mae'r gwisgoedd a'r colur yn ychwanegu at y naws?

Y corws olaf

Gwrandewch ar y corws olaf.

Gwyliwch y clip ac yna trafodwch ym mha ffordd mae'r corws olaf yn nodweddiadol o 'genre/arddull' y sioe gerdd?