Ysgrifennwyd y ddrama gerdd yn 2011 gan Alecky Blyth ac Adam Cork.
Fe’i perfformiwyd yn y National Theatre yn y theatr stiwdio (Dorfman).
Crëwyd y darn wedi cyfres o weithdai.
Mae’r stori yn ymwneud â stryd o’r enw London Road yn Ipswich sydd yn dod yn enwog yn 2006 am fod llofrudd yn byw ar y stryd. Mae’r ddrama gerdd yn edrych ar sut mae pobl y stryd yn ceisio ymdopi â’r sylw annisgwyl ac amhriodol.
Beth sydd yn ddiddorol yw bod y dramodydd, Alecky Blyth, fel arfer yn ysgrifennu dramâu realistig. Mae hi yn ysgrifennu dramâu ‘verbatim’.
Mae gennych bum munud i ddarganfod beth yw ystyr y gair ‘verbatim’ a pa fath o genre ysgrifennu yw hwn?
Mae hon yn gan i’r corws o’r enw ‘London in Bloom’.
Julie : I got nearly seventeen hangin’ baskets in this back garden – believe it or not. Begonias, petunias an – erm impatiens an things.
Alfie : Marigolds, petunias. We got up there, we got busy Lizzies , hangin’ geraniums alright – see the hangin’ lobelias, petunias in the basket – hangin’ basket. That’s a fuschia.
Ydy’r rhain yn swnio fel geiriau cân?
Gan fod Alecky Blythe yn arbenigo mewn creu dramâu yn defnyddio geiriau go iawn roedd yn rhaid darganfod ffordd o’u gosod i gerddoriaeth. Roedd rhaid hefyd cael ffordd o wneud y deunydd yn ddramatig ac yn ddiddorol i gynulleidfa. Mae’r stori am y llofrudd oedd yn lladd puteindai yn swnio'n drist ond roedd y ddrama-gerdd yn dangos sut mae pobl yn gallu goresgyn sefyllfaoedd gwael.
Nid oes corws fel y cyfryw dim ond y cymeriadau ar y stryd.
Un o’r caneuon mwyaf trawiadol yw pan mae pobl y stryd yn sôn am eu cystadleuaeth tyfu blodau mewn basgedi. Mae geiriau go iawn y bobl wedi eu rhoi yn erbyn ei gilydd i greu corws o obaith. Wrth ddal rhythm naturiol y bobl yn y gerddoriaeth mae’r cyfansoddwr wedi creu darn naturiol a thrawiadol.
Gwyliwch y corws.
Beth ydych chi yn feddwl o’r darn?