Mae gennych bum munud i ddarganfod pum ffaith am Les Miserables.
Mae nifer o ganeuon enwog yn y sioe:
Mae’r gân hon yn cael ei chanu gan Eponine sydd mewn cariad â Marius ond mae ef mewn cariad â Cosette. Yn y gân yma mae Eponine yn agor ei chalon i'r gynulleidfa.
Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.
Gwyliwch y gân eto .
Disgrifiwch sut mae yr actor yn perfformio y gân.
Meddwyliwch am safiad, symudiadau, pwyslais y geiriau, amrywiaeth y sain a’r mynegiant wynebol.
Mae hi’n gân ysgafn sy'n rhoi cyfle i’r gynulleidfa chwerthin. Rydym yn cyfarfod a'r Thenadiers am y tro cyntaf sydd yn gymeriadau bywiog, hwyliog a drygionus iawn. Ond gan eu bod yn dlawd maent yn byw ar gyrion cymdeithas a heb ddewis ond i fyw trwy dwyllo.
Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.
John Owen-Jones
Gwyliwch y gân sy'n uchafbwynt i Act 1.
Mae pob prif gymeriad a’r corws ar y llwyfan yn canu am eu dyheadau.
Gwyliwch y clip ac yna nodwch beth yw eich barn am sut y caiff y gân ei llwyfannu.