Mae theatr gerdd yn un o’r genres perfformio mwyaf poblogaidd.
Fel arfer mae’r sioeau yn cyfuno :
Rhestrwch unrhyw ddramâu cerdd Americanaidd rydych chi yn ymwybodol ohonynt.
Rhestrwch gymaint o ddramâu cerdd Brydeinig rydych chi yn ymwybodol ohonynt.
Un o’r dramâu cerdd cyntaf oedd “The Beggar’s Opera” gan John Gay yn 1793. Fe ddefnyddiodd ef ganeuon poblogaidd y cyfnod i adrodd y stori.
Yn ystod y cyfnod yma byddai dramâu yn cynnwys cerddoriaeth yn ogystal ag effeithiau gweledol a thrawiadol.
Roedd neuaddau cerddoriaeth neu music halls yn boblogaidd iawn yn ystod yr oes, dyma noson o adloniant gan gynnwys canu, dawnsio a chomedi.
Dyma oes aur y pantomeim, byddai’r sioeau yn cael eu perfformio adeg y Nadolig gyda lot o ddawnsio , canu ac actio.
Jack the Giant Killer
High Rollers
Hon oedd y ddrama gerdd gyntaf gyda naratif glir i’r stori.
Mae stori gariad cryf ynddi ond mae hefyd yn ymdrin â’r ffordd roedd bobl dduon yn cael eu trin yn ne America. Rhai o’r caneuon enwog yw ‘Old man river’ ac ‘After the ball’. Gofynion y sioe yw cast mawr a set lliwgar.
Show Boat
Dyma’r ddrama gerdd gyntaf i gyfleu cymeriad drwy ddull cân. Mae bob cân yn bwysig i ddatblygiad y stori a’r cymeriadau. Mae’r dawnsio yn rhan o’r stori hefyd. Stori gariad wedi ei leoli yn ardal amaethyddol Oklahoma. Mae yma lun o gymdeithas sydd yn gweithio yn galed ac yn edrych ar ôl ei gilydd.
Oh what a beautiful morning – Unawd
Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.
Y ddau yma ddatblygodd y genre yn America. Roedd y dramâu cerdd yn seiliedig ar nofelau neu straeon go iawn. Dyma rhai o’r dramâu cerdd:
Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.
Dyma drac sain ‘You’ll never walk alone”.
Dylanwadwyd nifer o gyfansoddwyr gan Rodgers and Hammerstein.
Stephen Sondheim – Cy Coleman – Kander and Ebb – Schwartz – Jason Robert Brown – Lin Manuel Miranda - Bennet – Learner and Lowe.
Dyma rhai o’r dramâu cerdd y mae rhain wedi creu: Company, Hamilton, Parade, 13, Sweet Charity, City of Angels, Chicago, Cabaret, Wicked, Godspell, Pippin, A Chorus Line, Rent, My Fair Lady.
Dechreuodd Prydeinwyr ysgrifennu dramâu cerdd yn y 60au.
Un o’r rhai cyntaf i lwyddo oedd ‘Oliver’ gan Lionel Bart.
Roedd Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat gan Andrew Lloyd Webber a Tim Rice yn sioe lwyfan lwyddiannus arall.
Roedd Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat gan Andrew Lloyd Webber a Tim Rice yn sioe lwyfan lwyddiannus arall.
Mae Andrew Lloyd Webber, Tim Rice, Elton John ac Willy Russell wedi ysgrifennu nifer o ddramâu cerdd llwyddiannus. Dau gyfansoddwr mwy cyfoes yw Tim Minchin a Stiles and Drewe.
Dyma rai o’r drama cerdd a gyfansoddwyd gan yr uchod.
Evita – 1978 | Blood Brothers – 1983 | Phantom of the Opera – 1986 | Sunset Boulevard – 1991 | Honk! - 1993 | We Will Rock You – 2002 | Chitty Chitty Bang Bang - 2002 | Spamalot – 2004 | Mary Poppins – 2004 | Billy Elliott – 2005 | Matilda - 2010 | Betty Blue Eyes – 2011
Erbyn hyn mae cynnwys cynhyrchiadau theatr gerdd wedi newid.
Maent wedi symud o bynciau hanesyddol fel ‘Evita’ i rai mwy cyfoes fel ‘Everyone’s talking about Jamie’ a ‘Dear Evan Hansen’.
Mae’r math o gerddoriaeth wedi newid hefyd gyda genres pop cyfoes yn cael eu defnyddio e.e. hip hop a rap yn ‘Hamilton’ a roc trwm yn ‘American Idiot’.
Mae’r genre yn cynnig cyfle i edrych ar hen bynciau drwy lygaid cyfoes.
Mae ‘Hamilton’ yn adrodd stori un o gymeriadau chwyldro America drwy hip hop a rap gyda’r stori yn symud yn ôl ac ymlaen drwy ei fywyd.
Mae ‘Wasted’ yn defnyddio cerddoriaeth pop i gyflwyno stori'r Brontes a’r sioe ‘Six’ yn sôn am hanes chwe gwraig Harri’r 8fed o bersbectif ffeministaidd.
Ar Broadway mae sioe o’r enw ‘Waitress’ yn olrhain hanes criw o ferched yn gweithio mewn caffi. Mae ‘The Color Purple’ yn seiliedig ar nofel Alice Walker am greulondeb tuag at ferched.
Felly mae addasu nofel , stori , barddoniaeth neu fywyd pob dydd pobl yn bosib fel pwnc i theatr gerdd.
Sioe arall yw ‘Caroline or Change’ sy’n adrodd stori morwyn ddu yn America yn y 60au.
Mae ’Groundhog Day’ a ‘The School of Rock’ yn seiliedig ar ffilmiau enwog.
Dros y blynyddoedd mae edrychiad sioeau cerdd wedi datblygu llawer.
Ceir nifer o sioeau mawreddog fel ‘Wicked’ a ‘Charlie and the Chocolate Factory’ lle mae’r set a’r gwisgoedd yn hanfodol i’r stori.
Mae’r gynullleidfa am weld rhywbeth hudol sydd yn eu cludo i fyd arall.
Mae datblygiadau mewn goleuo hefyd wedi golygu bod modd creu llwyfan diddorol gyda dim ond lliw a siap golau.
Mae’n bosib llwyfannu sioe gerdd heb set fawr a goleuo drud.
Mae nifer o’r sioeau gorau wedi dechrau yn y Mernier Chocolate Factory sydd ond yn dal ychydig o gannoedd o bobl e.e Barnum a Funny Girl.
Mae nifer o gynyrchiadau yn defnyddio actorion sydd yn gallu chwarae offeryn cerdd felly mae’r gerddoriaeth yn dod yn rhan ganolog o’r perfformiad. Enghreifftiau o hyn yw ‘Sweeney Todd’ ac ‘Oliver’ yn y Watermill Theatre, Newbury.