Funded by Welsh Goverment

Cysgu'n Brysur


Y Cefndir

Ysgrifennwyd y sioe yn 2016 ar gyfer Theatr Ieuenctid yr Urdd gan Bethan Marlow a’r band Bromas.

Mae’r sioe yn cyfuno deialog a chanu.

Criw o bobl ifanc mewn ysgol yw’r cymeriadau a ceir yn y sioe ddehongliad o’u bywydau bob dydd ac un noson allan.

Ceir amrywiaeth o gymeriadau sy’n adlewyrchu'r rhychwant o bobl ifanc mewn ysgol gyffredin.

Cysgu'n brysur

Cân gyntaf y sioe

Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.

  1. Pa fath o sioe gerdd ydych chi yn credu bydd hon?
  2. Sut mae cân gyntaf y sioe yn dal eich sylw?
Bill Murray

Unawd 1

Yn y clip yma mae “Rich” yn canu cân i’w gariad.

Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.

  1. Sut mae'r gân hon yn wahanol i'r gân agoriadol?
  2. Pam y cafodd y gân ei llwyfannu fel hyn?

Unawd 2

Unawd yw’r gân yma ond eto mewn arddull gwahanol.

Gwyliwch y clip ac yna atebwch y cwestiynau.

  1. Sut mae’r gân yn cyfathrebu teimladau'r cymeriad?
  2. Beth yw rôl y corws yn y gân hon?

Cân olaf y sioe

Gwrandewch ar gân olaf y sioe sy'n gân corws.

Gwyliwch y clip ac yna trafodwch os yw hyn yn ffordd effeithiol i orffen y sioe.