Funded by Welsh Goverment

Creu Theatr Gerdd


Cyflwyniad

Mae’n bosib creu drama gerdd unigryw i chi.

Nid oes rhaid i chi fod yn gallu cyfansoddi na barddoni!

Rhai o’r dramau cerdd mwyaf poblogaidd ar y funud yw’r ‘jukebox musicals’.

Mae sgriptiwr yn defnyddio caneuon sydd yn bodoli yn barod a chreu sioe o’u cwmpas.

Cysgu'n brysur

Enghraifft o’r math yma o ddrama gerdd yw Mamma Mia ble mae caneuon Abba wedi eu defnyddio i greu sioe liwgar a phoblogaidd.

Un arall yw We Will Rock You sydd yn seiliedig ar ganeuon Queen.

Cysgu'n brysur

Sioe arall poblogaidd yw Jersey Boys sy’n seiliedig ar hanes a cherddoriaeth Franki Valli.

Crëwyd sioe Gymraeg yn seiliedig ar ganeuon Edward H Dafis (grŵp o’r 70au). Enw’r sioe oedd ‘Sneb yn becso dam.

Cysgu'n brysur

Gweithgaredd

Enwch dair sioe arall sydd yn seiliedig ar ganeuon bobl eraill?

Perfformio cân mewn arddull theatr gerdd

Gweithgaredd

Gwyliwch Elain Llwyd yn perfformio’r gân ‘Dy garu o bell’ o’r sioe ‘Er Mwyn Yfory’ gan Penri Roberts, Derec Williams a Robat Arwyn.

Cysgu'n brysur

Perfformiad Elain Llwyd

Gweithgaredd trafod mewn parau

  1. Beth yw stori’r gân ‘Dy garu o bell’?
  2. Ydy hi’n gân hapus neu’n gân drist? Esboniwch eich ateb.
Cysgu'n brysur

Gweithgaredd unigol

(Edrychwch ar daflen waith Creu 1 sydd i’w chanfod yn yr adran GWEITHGAREDDAU ar y sgrin gyntaf.)

  1. Cyn gwylio’r perfformiad eto darllenwch gwestiynau 3 – 7 sy’n holi am ran gyntaf y gân.
  2. Atebwch y cwestiynau wedi gwylio’r perfformiad.
  3. Yna atebwch weddill y cwestiynau ar y daflen hyd at gwestiwn 20.

Gweithgaredd trafod mewn parau

Ydych chi yn credu bod y perfformiad wedi cyfleu teimladau’r cymeriad?

Ydy Elain yn canu yn arddull y theatr gerdd?

Esboniwch eich ateb.

Cysgu'n brysur

Tasg

Ewch ar y we i chwilio am unigolyn yn perfformio cân yn arddull theatr gerdd.

Argraffwch y geiriau ac yna dadansoddwch berfformiad yr actor gan ysgrifennu eich syniadau o gwmpas y geiriau.

Canolbwyntiwch ar:

  • y defnydd o eiriau
  • symudiadau
  • mynegiant wyneb

Sut maen nhw’n chwarae gyda’r gân er mwyn creu effaith?

Creu - stori

Creu

Mae’n bosib i chi greu drama gerdd fer yn defnyddio caneuon rydych chi eisoes yn eu hadnabod.

Y peth cyntaf sydd ei angen yw stori – mae sicrhau stori dda yn HOLL BWYSIG!

Cysgu'n brysur

Stori

Mae straeon gwreiddiol yn anodd eu creu felly’r peth gorau ydy defnyddio stori sydd yn bodoli yn barod.

Fe allwch chi gael stori o:

  • Whatsapp
  • Facebook
  • papurau newydd neu wefanau newyddion
  • llyfrau yn cynnwys chwedlau e.e. Y Mabinogi, Chwedlau Grimm
  • digwyddiadau hanesyddol
  • straeon eich teulu
  • nofelau neu straeon byrion.

Wedi ichi ddewis eich stori gallwch ei addasu mewn unrhyw ffordd i weddu i’ch grŵp.

Gallech er enghraifft newid cymeriad, torri cymeriad neu hepgor rhan o’r stori.

Mae’n bosib felly addasu stori i greu darn ar gyfer grŵp bach.

Fel unrhyw ddrama mae’n rhaid cael gwrthdrawiad.

Beth yw gwrthdrawiad?

Ateb

Cymeriadau sydd yn casáu neu yn caru ei gilydd neu bobl sy’n anghytuno gyda’i gilydd.

Cysgu'n brysur

Creu - caneuon

Caneuon

Mae dewis caneuon yn ymddangos yn hawdd ond cofiwch fod yn rhaid i chi allu actio’r caneuon.

Nid pob cân bop sy’n gweddu i hyn.

Byddai’n anodd perfformio rhai o ganeuon Beyonce ond efallai byddai caneuon Ed Sheeran yn gweddu’n well.

Mae llawer o ganeuon Cymraeg addas ar gyfer hyn.

Cysgu'n brysur

Chwarae’n troi’n chwerw

Darllenwch y geiriau yma gan Caryl Parry Jones.

Mae'th fywyd di yn ddedwydd
Rwyt ti'n fodlon ar dy fyd
Ond mae 'na rywbeth bach yng nghefn dy ben
Sy'n dy boeni di o hyd
Ti'n syrthio mewn i’r fagl
Heb wybod be di be
A does dim ar ôl ond rhyw syniad ffôl
Yr aiff popeth nôl i'w le

Gweithgaredd trafod mewn parau

Wedi darllen y geiriau trafodwch y canlynol.

Pa fath o gymeriad sy’n canu’r gân?

Ydy o’n bosib bod dau berson yn canu’r gân?

Sut fyddai’r gân yn addas ar gyfer darn dyfeisio?

Chwarae’n troi’n chwerw 1

Gweithgaredd unigol

(Edrychwch ar daflen waith Creu 2 sydd i’w chanfod yn yr adran GWEITHGAREDDAU ar y sgrin gyntaf.)

Gwyliwch berfformiad cyntaf Elain Llwyd o ‘Chwarae’n troi’n chwerw’ gan ateb cwestiynau 4 - 6 ar y daflen waith Creu 2.

Chwarae’n troi’n chwerw 2

Gweithgaredd unigol

Wedi ateb cwestiynau’r clip fideo cyntaf, gwyliwch yr ail fersiwn o’r gân gan ateb cwestiynau 7 – 14 ar y daflen waith Creu 2.

Gweithgaredd trafod mewn parau.

Wedi gwrando ar y ddwy fersiwn o’r gân gan Elain trafodwch pa fersiwn sydd well gennych chi?

Rhowch resymau dros eich dewis.

Felly os oes stori mewn cân mae’n bosib ei throi yn gân yn arddull theatr gerdd.

Mae’n bosib golygu caneuon ac nid oes yn rhaid defnyddio cân gyfan. Gellid hefyd newid ambell air yma a thraw yn y gân.

Cysgu'n brysur Cysgu'n brysur

Tasg

Eich tasg mewn grwpiau o 2- 5 yw i greu darn o theatr gerdd.

Y cam cyntaf yw dewis eich stori.

Gall fod yn un o’r canlynol:

  • Stori Branwen yn Iwerddon
  • Stori Blodeuwedd
  • Stori Cantre’r gwaelod
  • Hanes teulu yn gadael Tryweryn
  • Taith y Mimosa
  • Stori Dwynwen
  • Hanes Gelert
  • Hanes teulu yn Senghennydd yn 1913.
Cysgu'n brysur

Y Cynnwys

Fe fydd angen;

  1. stori glir
  2. stori sydd yn cynnig rhannau difrifol a rhannau mwy ysgafn
  3. 2 - 4 cân ond nid oes rhaid canu pob cân yn gyfan
  4. deialog sydd yn symud y stori ymlaen - mae’n bosib llefaru geiriau heb ganu
  5. gwrthdrawiad
  6. llwyfanu’r darn gyda set syml.

Nid oes angen poeni am oleuo.

Cysgu'n brysur

Efallai mai hwn fydd y ddrama gerdd fawr nesaf!

Pob lwc!

Cysgu'n brysur