Drwy'r canrifoedd, mae artistiaid, beirdd ac awduron i gyd wedi portreadu straeon y geni gan ddefnyddio ychydig o ryddid yr artist / y bardd. Mewn geiriau eraill, maen nhw wedi dyfeisio cymeriadau a lleoliadau, wedi cyfuno'r straeon ac wedi gadael manylion allan.
Gwyliwch clipiau ffilm yn dangos geni'r Iesu*, a gan gyfeirio at y ddwy fersiwn o stori'r geni, trafodwch lle mae rhyddid yr artist wedi cael ei ddefnyddio.

Am ragor o wybodaeth a gweithgareddau:

A oes yna ambell i gerdyn Nadolig sy'n dangos dim o straeon y Beibl?

Gwnewch waith ymchwil ar sut a pham y daeth coed y Nadolig a Siôn Corn yn rhan o'n Nadolig.

Edrychwch ar eiriau'r carolau. Ydynt yn adlewyrchu straeon Mathew a Luc? Pa un o'r ddau sydd wedi cymysgu'r ddwy stori? Pa un o'r ddau sydd gan ddim byd o gwbl i'w wneud gyda geni'r Iesu?