
Adnod 1:18-20
Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw'n darganfod fod yr Ysbryd Glân wedi'i gwneud hi'n feichiog.Roedd Joseff, oedd yn mynd i'w phriodi, yn ddyn da a charedig. Doedd e ddim eisiau gwneud esiampl ohoni a'i chyhuddo hi'n gyhoeddus, felly roedd yn ystyried yn dawel fach i ganslo'r briodas.Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, “Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai'r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi.
Adnod 1:23
“Edrychwch! Bydd merch ifanc sy'n wyryf yn feichiog ac yn cael mab. Bydd y plentyn yn cael ei alw yn Emaniwel” (Ystyr Emaniwel ydy “Mae Duw gyda ni.”)
Ydy Mathew yn sôn am feichiogiad gwyrthiol yma? Ers bron i 2,000 blynedd, mae nifer o draddodiadau Cristnogol wedi derbyn y syniad o 'Enedigaeth Wyryfol'.
Ond ai dyma oedd bwriad Mathew? Mae'n dibynnu sut yr oedd yn defnyddio 'gwyrwyf' a 'thrwy'r Ysbryd Glân'.