Pwy oedd Tad yr Iesu?
Neu gwestiwn gwell efallai: 'Pwy mae Mathew eisiau i ni gredu oedd Tad yr Iesu?'
Yn y ddwy bennod gyntaf, mae Mathew yn enwi Joseff saith neu wyth gwaith, ac wedyn byth eto! Mae'n cael ei ddileu o'r stori. Pam?
Darllenwch yr adnodau isod gan esbonio sut maent yn dangos NAD yw Mathew eisiau i'w gynulleidfa feddwl mai Joseff oedd Tad yr Iesu.
OND OS NAD JOSEFF, WEDYN PWY?

Adnod 12:46

Tra oedd Iesu'n dal i siarad â'r bobl, cyrhaeddodd ei fam a'i frodyr yno. Dyma nhw'n sefyll y tu allan a gofyn am gael gair gydag e.

Adnod 13:55

Mab y saer ydy e! Onid Mair ydy ei fam? Onid Iago, Joseff, Simon a Jwdas ydy ei frodyr?

Adnod 1:16

a Jacob oedd tad Joseff (gŵr Mair – y ferch gafodd Iesu, y Meseia, ei eni iddi).

Adnod 1:18

Dyma ddigwyddodd pan gafodd Iesu y Meseia ei eni: Roedd ei fam, Mair, wedi cael ei haddo i fod yn wraig i Joseff. Ond cyn iddyn nhw briodi a chael rhyw, dyma nhw'n darganfod fod yr Ysbryd Glân wedi'i gwneud hi'n feichiog.

Adnod 1:20

Roedd wedi bod yn meddwl am hyn pan gafodd freuddwyd: gwelodd angel Duw yn dod ato a dweud wrtho, ‘Joseff fab Dafydd, paid petruso mynd â Mair adre i fod yn wraig i ti, am mai'r Ysbryd Glân sydd wedi gwneud iddi feichiogi.

Adnod 1:25

ond chafodd e ddim rhyw hefo hi nes i'w mab gael ei eni. A rhoddodd yr enw Iesu iddo.

Adnod 2:11

Pan aethon nhw i mewn i'r tŷ, dyna lle roedd y plentyn gyda'i fam, Mair, a dyma nhw'n disgyn ar eu gliniau o'i flaen a'i addoli. Yna dyma nhw'n agor eu paciau a rhoi anrhegion gwerthfawr iddo – aur a thus a myrr.

Adnod 2:14

Felly cododd Joseff ganol nos a gadael am yr Aifft gyda'r plentyn a'i fam.