Cristnogaeth - Adolygu cysyniadau allweddol

Rhowch y termau allweddol yn y drefn gywir yn ôl y diffiniadau ar y dde.

  • Y Drindod
  • Llwon
  • Hollwybodus
  • Deialog rhyng-grefyddol
  • Atgyfodiad
  • Agape
  • Grwpiau ffydd gwahanol yn dod i ddeall a pharchu ei gilydd gan olygu eu bod yn gallu byw'n heddychlon, ochr yn ochr, er gwaethaf gwahaniaethau o ran eu credoau a'u ffyrdd o fyw.
  • Cariad anhunanol, aberthol, diamod. Y math uchaf o gariad, a nodweddir gan Iesu.
  • Y gred bod Iesu wedi codi o farw'n fyw ar Sul y Pasg, gan oresgyn marwolaeth.
  • Natur hollwybodus, holl-synhwyrol, hollweledol Duw.
  • Addewidion a wneir rhwng pobl, neu addewidion unigolyn i Dduw. Mae addunedau priodas yn addewidion y mae'r briodferch a'r priodfab yn eu gwneud, gan eu hymrwymo eu hunain y naill i'r llall.
  • Tri pherson y Duwdod Cristnogol e.e. Duw'r Tad, Mab a'r Ysbryd Glân.