Ydych chi'n siŵr eich bod am ddileu eich anodiad? Ni ellir dadwneud hyn.
Astudio'r cyfryngau – Ffilmiau Hollywood
Testunau arloesol - Ffilmiau Ffuglen Wyddonol
Gwyliwch y clipiau/rhaghysbysebiau canlynol. Gwnewch nodiadau ar sut mae'r genre wedi datblygu dros amser.
A Trip to the Moon
Ystyrir mai'r ffilm fer hon oedd y ffilm Ffuglen Wyddonol gyntaf ac fe'i gwnaed yn 1902 gan Georges Méliès. Mae'n ddiddorol hyd yn oed yn ystod dyddiau cynnar y sinema fod gwneuthurwyr ffilmiau yn defnyddio golygfeydd Ffuglen Wyddonol i greu argraff ar gynulleidfaoedd! Sut y caiff y genre ei sefydlu?
The Day the Earth Stood Still
Mae The Day the Earth Stood Still (1951) gan Robert Wise yn ffilm a ddefnyddiodd Ffuglen Wyddonol fel ffordd o ystyried materion cymdeithasol. Gwyliwch y rhaghysbyseb a chanolbwyntiwch ar y ffordd y caiff y robot ei gynrychioli. Ystyriwch sut y caiff ei wireddu ar ffurf weledol ac ystyriwch ei ran yn y naratif.
A.I. Artificial Intelligence
Roedd A.I. Artificial Intelligence gan Steven Spielberg yn seiliedig ar sgript ffilm na chafodd ei gorffen gan Stanley Kubrick. Pa fath o themâu mae'r ddau wneuthurwr ffilmiau, sydd yn enwog am eu gwaith ym maes Ffuglen Wyddonol, yn mynd i'r afael â nhw yn y ffilm hon?