Ydych chi'n siŵr eich bod am ddileu eich anodiad? Ni ellir dadwneud hyn.
Astudio'r cyfryngau – Ffilmiau Hollywood
Testunau arloesol – Ffilmiau arswyd
Gwyliwch y clipiau/rhaghysbysebion canlynol. Gwnewch nodiadau ar sut mae'r genre wedi datblygu dros amser.
The House of the Devil
Ystyrir mai'r ffilm fer hon oedd y ffilm arswyd gyntaf ac fe'i gwnaed yn 1896 gan Georges Méliès. Mae'n ddiddorol hyd yn oed yn ystod dyddiau cynnar y sinema fod gwneuthurwyr ffilmiau yn defnyddio golygfeydd arswyd i greu argraff ar gynulleidfaoedd! Sut y caiff y genre ei sefydlu?
The Haunting
Mae'r ffilm The Haunting (1963) gan Robert Wise wedi derbyn canmoliaeth gan ddilynwyr arswyd a hefyd gan gynulleidfaoedd ffilm cyffredinol. Dylech ganolbwyntio'n benodol ar y mise-en-scene a'r ffordd y caiff merched eu cynrychioli yn y rhaghysbyseb hwn.
Poltergeist
RoeddPoltergeist gan Tobe Hooper yn llwyddiant arswyd prif ffrwd. Mae'n dangos grym goruwchnaturiol ymwthiol yn treiddio i amgylchfyd maestrefol cyffredin. Pa fath o themâu y mae'r ffilm arswyd hon yn mynd i'r afael â nhw?