Cyfryngau - Cynrychioliad
Arweinwyr barn a damcaniaeth dau gam

WJEC

Datblygodd Paul Lazarsfeld, cymdeithasegydd o America, ddamcaniaeth o'r enw y DDAMCANIAETH LLIF DAU GAM. Ymchwiliodd i'r modd mae'r cyfryngau yn dylanwadu'n uniongyrchol ar eu cynulleidfa. Daeth i'r casgliad nad y testun cyfryngol sy'n dylanwadu ar y gynulleidfa mewn llawer o achosion ond, yn hytrach, berson neu gyswllt sydd wedi rhoi barn ar y testun. Galwodd y person hwn yn Arweinydd barn.

Cam Cyntaf – Cyfryngau Torfol yn cyrraedd yr arweinydd barn

Ail Gam – Arweinwyr barn yn trosglwyddo eu dehongliad eu hunain i'r gynulleidfa.

Gwnewch restr o bwy allai fod yn arweinydd barn yn eich barn chi.

Awgrymiadau: Gwleidyddion, y wasg, arweinwyr crefyddol, aelodau o'r teulu brenhinol, penaethiaid sefydliadau/undebau, y rhai sy'n cael eu hystyried yn 'arbenigwyr' yn eu maes a chofiwch nad oes yn rhaid i arweinwyr barn fod yn bobl mewn awdurdod.


Awgrymiadau
Argraffu