Cyfryngau - Cynrychioliad
Cyflwyno termau allweddol

WJEC

Darllenwch y geiriau a thrafodwch beth y gallent eu golygu yn eich barn chi cyn datgelu'r diffiniad.


Teitl – Teitl y Papur Newydd mewn ffont trwm ar frig y papur

Llinell enw - Enw ysgrifennwr y testun.

Pennawd/Is-bennawd - Prif bennawd/pennawd llai oddi tano

Llinell naid – Yn nodi'r dudalen lle mae'r stori yn parhau – 'Gweler tudalen 11'

Copi – Y prif destun ar gyfer tudalen y papur newydd.

Cornel uchaf (Earpiece ) – Darn hysbysebu, wrth ymyl y teitl fel arfer, ar y dudalen flaen.

Sblash – Y brif stori ar y dudalen flaen.

Croesbennawd – Paragraff â'i bennawd ei hun sy'n rhannu'r erthygl.

Egluryn – Llinell ddisgrifio o dan lun.

Dyfyniad Bachog – Dyfyniad wedi'i amlygu a ddewiswyd o'r prif destun.

Baner ochrol – Hysbyseb neu eitem ar ochr y dudalen flaen.

Crynodeb cyflwyniadol byr – Brawddeg sy'n cael ei chyflwyno i ddenu sylw a chyflwyno'r erthygl.