Sut mae clawr Heavy Rain yn cynrychioli rhyw? Ydy e'n herio neu'n cefnogi stereoteipiau presennol?
Mae cod gwisg y cymeriadau gwrywaidd hefyd yn cyd-fynd â'r genre trosedd. Gwisgai bob un siwtiau du, cynrychioliad nodweddiadol o lwyddiant a chryfder. Mae codau eu mynegiannau wynebol yn bendant ac mae'r gwn yn god gweithredol (Barthes) sy'n cynyddu disgwyliadau'r gynulleidfa. Mae cynrychioliad y dynion yn cyd-fynd â rhinweddau stereoteipiau gwrywaidd yn gysylltiedig â thrais a phŵer.
Mae sylw'r gynulleidfa'n cael ei dynnu at y cymeriad benywaidd. Mae ei gwallt byr a'i hedrychiad naturiol yn cyd-fynd â'r stereoteip o fenyw gref. Yn ychwanegol, mae ei chod gwisg o fest plaen yn gonfensiwn o arwr gweithredol benywaidd, a sefydlwyd yn gyntaf gan Ellen Ripley ym masnachfraint Alien. Serch hyn, mae ystum y cymeriad wedi'i rywioli ac mae'n cyd-fynd â'r ddelwedd nodweddiadol a delfrydol o ffigur fain a breichiau cyhyrog. Mae sylw'n cael ei dynnu at ei brest o ganlyniad i'r top tynn a'r goleuo canolbwyntiedig.