Ydych chi'n siŵr eich bod am ddileu eich anodiad? Ni ellir dadwneud hyn.
Cyfryngau - Cynrychioliad
Dyddiadau allweddol
Llusgwch y datganiadau i gyd-fynd â'r dyddiad ar y llinell amser.
1940
1972
1977
1981
1986
1993
1995
1996
2000
2009
2013
Edward Condon yn dylunio peiriant a oedd yn chwarae'r gêm fathemategol, Nim.
Atari yn datblygu gêm tenis bwrdd ar gyfer arcedau, o'r enw Pong.
Rhyddhau'r gêm fideo gyntaf i'w chwarae gartref, ar ffurf cetrisen.
Donkey Kong yn cyffroi'r rhai sy'n hoffi gemau fideo.
Metroid yn cynnwys y cymeriad benywaidd cyntaf y gellir ei chwarae mewn gêm fideo.
Mortal Kombat yn gorfodi Llywodraeth yr UD i ddechrau rhoi graddau i gemau yn seiliedig ar Gynnwys Treisgar.
Sony yn rhyddhau'r PlayStation.
Tomb Raider yn cael ei ryddhau gyda'r prif gymeriad benywaidd cyntaf yn y byd gemau.
Sims yw'r gêm gyfrifiadurol â'r gwerthiant gorau erioed, yn arbennig o boblogaidd gyda chwaraewyr benywaidd.
Gemau fel Farmville ac Angry Birds yn creu miliynau o chwaraewyr newydd sy'n chwarae ar Facebook a ffonau deallus.
Ton o straeon gemau mwy aeddfed yn dod i'r farchnad. Mae'n rhaid i chwaraewyr wneud penderfyniadau emosiynol anodd mewn naratifau mwy cymhleth e.e. Gone Home.
Da iawn. Mae pob un yn gywir.
Mae gennych allan o …. Symudwch rai o'r datganiadau o gwmpas i weld os gallwch wella eich sgôr.