Edrychwch ar y siart sy'n rhestru'r gemau cyfrifiadurol mwyaf llwyddiannus o ran gwerthiant. Pa gemau sy'n cynnwys cymeriadau benywaidd yn eich barn chi?
| Y 50 GÊM MWYAF LLWYDDIANNUS O RAN GWERTHIANT YN Y DU YN 2016 | Cwmni |
|---|---|
| 1. FIFA | EA |
| 2. Call of Duty: Infinite Wafare | Activision |
| 3. Battlefield | EA |
| 4. The Division | Ubisoft |
| 5. Grand Theft Auto V | Rockstar |
| 6. Uncharted 4: Thief’s End | Sony |
| 7. Call of Duty: Black Ops III | Activision |
| 8. Watch Dogs 2 | Ubisoft |
| 9. Overwatch | Blizzard |
| 10. Forza Horizon 3 | Microsoft |
Mae cymeriadau benywaidd ym mhob un o'r gemau, heblaw un. Fodd bynnag, dim ond saith sy'n cynnwys prif gymeriadau benywaidd. Mae dwy ohonynt wedi cynnwys merched am y tro cyntaf – FIFA a Forza Horizon 3.
Mae hyn yn gam ymlaen o gymharu ag astudiaeth yn 1998 gan Trace Dietz a wnaeth ganfod nad oedd 41% o'r gemau a oedd ar werth yn cynnwys unrhyw gymeriadau benywaidd.