Cyfryngau - Cynrychioliad
Cynrychioliadau o rywedd

WJEC

Beth yw rhywedd? Ysgrifennwch eich syniadau cychwynnol am eich dealltwriaeth o'r term cyn datgelu'r awgrym.


Credit: natixa / Getty Images

Awgrymiadau

Mae'r term rhywedd yn cyfeirio at gyflwr o fod yn wryw neu'n fenyw sydd wedi'i lunio gan gymdeithas. Ni chaiff ei bennu'n fiolegol ond gan batrymau ymddygiad a gaiff eu pennu'n ddiwylliannol. Mae'n cyfeirio at y rolau a'r cydberthnasau sy'n cysylltu dynion a merched. Mae hunaniaeth rhywedd yn newid drwy'r amser ac mae llawer o gymdeithasau yn ymestyn termau rhywedd y tu hwnt i ddynion a merched yn unig.


Pa rolau ac ymddygiad a ystyrir yn rhai 'gwrywaidd' a 'benywaidd' yn ein diwylliant? Ystyriwch yr hysbysebion canlynol sydd wedi'u hanelu at blant a gwnewch nodiadau ar y rolau a'r ymddygiad y maen nhw'n eu hannog yn eich barn chi.


Gwrywaidd Benywaidd