Cyfryngau - Cynrychioliad
Hegemonaidd neu wrth-hegemonaidd?

WJEC

Ymchwiliwch i'r testunau cyfryngol canlynol a cheisiwch benderfynu pa ideoleg sy'n cael ei hyrwyddo. Gwnewch nodiadau ynghylch p'un a yw'r gwerthoedd yn hegemonaidd neu'n wrth-hegemonaidd. Cliciwch ar y botwm awgrym o dan bob delwedd i gael cymorth.


Ffilm o 2016 am yr Ail Ryfel Byd wedi'i chyfarwyddo gan Mel Gibson. Mae'n adrodd stori wir Desmond Doss, heddychwr Cristnogol, a wrthododd gario arf pan ymunodd â'r fyddin. Aeth Doss yn ei flaen i achub saith deg a phump aelod o'i uned ar ei ben ei hun.

Mae'r ffilm yn dathlu gwerthoedd Americanaidd craidd fel dewrder, sancteiddrwydd bywyd a chredoau Cristnogol a allai gael eu hystyried yn hegemonaidd. Fodd bynnag, mae'r ffilm yn ystyried y syniad bod lladd yn anghywir, hyd yn oed mewn rhyfel, sy'n groes i ideoleg Orllewinol.

Cylchgrawn ffordd o fyw yw Woman & Home a gyhoeddwyd gyntaf yn 1926. Mae'n targedu'r 'GenerationYNot', sef merched rhwng 40 a 60 oed ym Mhrydain. Mae dros hanner y gynulleidfa yn rhieni. Mae'r brand yn cefnogi gwerthoedd hegemonaidd y teulu a bywyd cartref. Mae'n cefnogi'r stereoteip o ferched yn magu teulu ac yn gofalu am y cartref. Yn ogystal, mae'n hyrwyddo gwerthoedd a chredoau prynwriaeth.

Sioe gerdd wedi'i hanimeiddio a gafodd ei rhyddhau yn 2013 yw Frozen. Mae'r ffilm yn adrodd stori dwy chwaer, un ohonynt â'r pŵer i droi unrhyw beth yn iâ. Mae Anna ac Elsa yn byw mewn diwylliant delfrydol sy'n cefnogi gwerthoedd cyfalafol. Neges y ffilm yw bod clymau teuluol y chwiorydd yn drech nag atyniadau byrhoedlog at ddynion golygus. Mae'r cymeriadau benywaidd wedi'u grymuso rhywfaint ac mae'r ddwy ohonynt yn dysgu gwersi am hunanreolaeth ac aberth.

Ffilm gyffrous wedi'i chyfarwyddo gan Jodie Foster. Mae'r ffilm yn canolbwyntio ar seren deledu sy'n rhoi cyngor ar fasnach a bancio. Mae'r ffilm yn beirniadu gwerthoedd a chredoau cyfalafol ac yn pardduo masnachwyr Wall Street (calon busnes yr UD).

Cylchgrawn am ddim a gafodd ei sefydlu yn 1984. Mae'n trafod pynciau sy'n ymwneud â'r celfyddydau, diwylliant a digwyddiadau cyfoes. Mae'r cylchgrawn yn cyhoeddi pynciau dadleuol am droseddoldeb, terfysgaeth, rhyw a gwleidyddiaeth. Y gynulleidfa darged yw pobl ifanc rhwng 18 a 40 oed (pobl a ddaeth yn oedolion yn yr 21ain ganrif).

Drama gyfnod Brydeinig a gafodd ei darlledu gyntaf ar BBC1 gyda Tom Hardy yn chwarae'r brif ran. Mae'r anturiaethwr James Delaney yn dychwelyd o Affrica i etifeddu stad ei ddiweddar dad. Yn fuan, mae'n dod yn rhan o gynllwyn i ddominyddu masnach rhwng y cyfandiroedd. Mae'r ddrama yn portreadu'r dosbarthiadau llywodraethol yn negyddol fel pobl lwgr a barus.