Darllenwch y geiriau a thrafodwch beth y gallent ei olygu yn eich barn chi cyn datgelu'r diffiniad.
Ideoleg – Mae cysylltiad annatod rhwng ideoleg a chynrychioliad. Mae'n cyfeirio at y system o werthoedd a chredoau sy'n cael ei harddel gan unigolion, grwpiau a diwylliannau. Mae ideoleg yn llunio ac yn herio cynrychioliadau mewn testunau cyfryngol. Gall ddylanwadu ar ganfyddiad cynulleidfa o'r byd.
Ideoleg Drechaf - Yn aml, mae gan gymdeithasau penodol systemau o werthoedd a chredoau sy'n llywio bywyd bob dydd. Y rhain yw'r ideoleg drechaf sy'n cael ei derbyn yn gyffredinol mewn cymdeithas a'i chefnogi gan ei llywodraethwyr etholedig a'i harweinwyr crefyddol. Yn y rhan fwyaf o gymdeithasau Gorllewinol, mae'r ideoleg drechaf yn ategu democratiaeth, rhyddid barn a rhyddid i addoli, marchnadoedd rhydd, prynwriaeth a rheolaeth y gyfraith.
Hegemoni - Mae 'Hegemoni' yn golygu'r pŵer ideolegol, gwleidyddol, economaidd a diwylliannol sydd gan y grŵp trechaf mewn cymdeithas benodol. Os bydd testun cyfryngol yn cefnogi'r ideoleg drechaf, caiff ei alw'n destun hegemonaidd.
Mae testun cyfryngol sy'n herio'r ideoleg drechaf mewn cymdeithas yn cael ei ystyried yn wrth-hegemonaidd.