Dadansoddiad o ddelwedd seren

  • Mae delwedd seren yn ddull allweddol o ran sut mae ffilmiau'n targedu cynulleidfaoedd
  • Gall delweddau seren werthu ffilm eu hunain ac mae ganddynt broffil sy'n adnabyddus yn fyd-eang
  • Mae rhai wedi'u rhestru'n enwogion mwyaf Hollywood
  • Maen nhw'n rhan fawr o farchnata ffilmiau drwy sioeau siarad, dilynwyr y cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau amrywiol eraill
  • Mae gan rai delweddau seren gysylltiad cryf â genres/arddulliau penodol o ffilmiau, e.e. Tom Cruise a ffilmiau llawn digwyddiadau
  • Damcaniaeth – Damcaniaeth seren Richard Dyer

IRON MAN 2

Gwyliwch y rhaghysbyseb. Sut mae'r ffilm yn defnyddio delweddau seren i dargedu cynulleidfaoedd?

BATMAN V SUPERMAN

Gwyliwch y rhaghysbyseb. Sut mae'r ffilm yn defnyddio delweddau seren i dargedu cynulleidfaoedd?

Cynrychioliad delwedd seren

  • Mae'r sêr yn rhannu gwerthoedd, syniadau a chredoau diwylliannol sy'n dylanwadu'n gyson ar farn y gynulleidfa. Nhw yw'r cynrychioliad delfrydyddol (idealistic)
  • Mae'r ddelwedd seren yn broses lluniadu (cyfryngu, stereoteip) gan y diwydiant a chynulleidfaoedd
  • Mae'r ffaith fod y gynulleidfa'n rhannu'r un farn yn rhoi hwb pellach i bersona'r 'seren'

Cynrychioliad delwedd seren

Pwy yw'r actorion/actoresau canlynol? Trafodwch â phartner cyn datgelu'r atebion.
Pa rai y byddech chi'n eu dosbarthu'n 'ddelweddau seren' a pham?

Tasg ddilynol Dewiswch 3 enghraifft ac eglurwch sut maen nhw'n cael eu cynrychioli yn y cyfryngau.

Iron Man 2 ac BvS

Gan ganolbwyntio ar BvS ac Iron Man 2. Pa mor bwysig yw delwedd 'seren' i lwyddiant y ffilmiau hyn? Rhowch resymau o blaid ac yn erbyn.