Titanic 16eg Ebrill 1912, diwrnod VE 8fed Mai 1945, glaniad cyntaf ar y lleuad 21fed Gorffennaf 1969, marwolaeth Elvis Awst 16eg 1977, marwolaeth Diana 31ain Awst 1997, marwolaeth Kennedy 22ain Tachwedd 1963, rhyfel ar America Medi 12fed 2001. Yn draddodiadol, y dudalen flaen oedd lle'r oedd straeon newyddion mawr yn cyrraedd y cyhoedd yn gyntaf (mi oedd radio ond roedd tudalennau blaen yn dal sylw drwy ddefnydd o bennawd a delwedd ddramatig ac emosiynol). Mae’r ymadrodd ‘dal y dudalen flaen’ yn bwysig oherwydd yn y gorffennol dyma ble roedd newyddion mwyaf arwyddocaol cyfoes yn cael ei adrodd. Ni fydd myfyrwyr o reidrwydd yn gwybod am yr holl straeon yma, ond mae trafodaeth o straeon newyddion y gorffennol yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth o rôl y dudalen flaen a phapurau newydd heddiw. Gall trafodaethau gael eu cysylltu yn ôl i ‘beth yw newyddion?’ Yma, gallai fod yna ddigwyddiad annisgwyl gyda thrasiedi dynol, digwyddiad arwyddocaol sy’n effeithio ar lawer o bobl, marwolaeth pobl enwog, ddylanwadol, cyflawniad pwysig.