Astudiwch y ddwy dudalen flaen hyn a thrafod pob sylwebaeth ar ideoleg cyn defnyddio’r adnodd argraffadwy ar refferendwm yr UE i ystyried sut mae’r papurau hynny yn cyfleu eu hideoleg.

Save Our Bacon

Save our bacon

Mae’r clawr yma yn ormodiaith nodweddiadol gan The Sun. Mae’n portreadu'r arweinydd Llafur Miliband yn bwyta brechdan gydag anhawster – mae'r dewis o’r ffotograff hwn yn fwriadol; i achosi bygythiad i rym y Ceidwadwyr ymddangos yn chwerthinllyd. Mae yna chwarae ar eiriau yn ymwneud â bacwn sydd eto yn nodweddiadol gartŵnaidd gan The Sun. Beth mae The Sun yn ei wneud yw gostwng y broses gymhleth o ddewis pwy i bleidleisio drostynt i rywbeth syml. Nid oes unrhyw sôn am bolisi Llafur: dim ond ymgais i wneud hwyl am arweinydd Llafur sy’n annog ymateb negyddol, sef y darlleniad delfrydol i'r papur newydd.

Five Years

Five years

Mae ceinder tywyll y clawr tabloid yma, gyda’i liw angladdol ddu a geirfa o drechu (condemnio, colledig) yn cynnig portread negyddol o’r fuddugoliaeth Dorïaidd. Mae’n cymryd yn ganiataol bod y cyfrannau darllen yn rhannu’r ideoleg/safbwynt hwn.