Pwy sy’n penderfynu beth sy’n newyddion?

Trafodwch y cwestiynau canlynol

Pa straeon sydd wedi cyrraedd y newyddion yn ddiweddar?

Enwch dair stori newyddion diweddar.

Pam ydych chi’n meddwl fod y straeon hyn wedi gwneud y newyddion?

Pam maen nhw'n cael eu hystyried i fod yn newyddion?

Mae penderfyniadau ar ddewis a blaenoriaethu newyddion yn cael eu gwneud gan borthorion cyfryngau. Mae dadansoddiad gan J. Galtung a M. Ruge yn datgelu bod yna ffactorau penodol yn cael eu hystyried ar draws ystod o sefydliadau newyddion sy’n dylanwadu ar ddewis newyddion. Gelwir y rhain yn werthoedd newyddion.

Mae 12 o werthoedd newyddurol. Allwch chi gysylltu eich straeon newyddion i unrhyw un o’r gwerthoedd newyddion?