I gyd-fynd â’r lansiad cafwyd ymgyrch hysbysebu gwerth £5 miliwn ar y teledu.
Dadansoddwch yr hysbyseb teledu a adeiladwyd i hyrwyddo The New Day.
- Yn gyntaf gwrandewch ar y codau sain.
- Pa eiriau sy’n cael eu hailadrodd? Pa eiriau sy’n sefyll allan? A oes geiriau sy’n cael eu defnyddio i fod yn arbennig o berswadiol? Pa dôn llais sy’n cael ei ddefnyddio? Sut fyddech chi’n disgrifio’r cyflymder?
- Pa neges sy’n cael ei chyfleu am y papur newydd hwn?