Canllawiau
Mae Rose a Dan Hughes yn rhedeg busnes gwely a brecwast yn ardal y Cotswolds. Yn ddiweddar maen nhw wedi adnewyddu’r adeilad mewn pryd ar gyfer yr haf ac i fod yn barod ar gyfer yr adeg fwyaf prysur o’r flwyddyn. Defnyddiodd yr adnewyddu eu holl arian wrth gefn ac maen nhw’n gwybod bydd y naw mis nesaf yn anodd o ran eu llif arian.
Gan ddefnyddio templed y rhagolwg llif arian a’r wybodaeth yn y ffenestr naid, lluniwch y rhagolwg llif arian ar gyfer Rose a Dan. Ar ôl i chi gwblhau’r tabl, cliciwch ar y botwm cwestiynau i ateb y cwestiynau sy’n seiliedig ar y rhagolwg hwn.
Atebwch y cwestiynau sy’n seiliedig ar y rhagolwg llif arian gorffenedig ac yna argraffwch eich gwaith.
Cwestiwn 1
£500 yw eu gweddill agoriadol ym mis Ebrill. Mae hyn wedi ei wneud i chi.
Cwestiwn 2
Rhagamcan y gwerthiant, ar sail llenwi 80% o’u lleoedd gwely a brecwast, yw:
- Tachwedd a Rhagfyr £1000 y mis;
- Ebrill a Hydref £2000 y mis;
- Mai a Medi £4000 y mis;
- Mehefin £5000 y mis;
- Gorffennaf ac Awst £6000 y mis.
Cwestiwn 3
Dydy nhw ddim yn disgwyl unrhyw incwm arall yn y naw mis.
Cwestiwn 4
Eu taliadau yw:
£650 y mis ar gyfer ad-dalu eu morgais.
Cwestiwn 5
Tyniadau ar gyfer Rose a hefyd Dan fydd £1000 y mis.
Cwestiwn 6
Amcangyfrif y stoc (bwyd ar gyfer prydau, coffi, te a bisgedi yn yr ystafelloedd) yw:
- Ebrill £500;
- Mai ac Awst £600;
- Mehefin a Gorffennaf £800;
- Medi a Hydref £400;
- Tachwedd £300;
- Rhagfyr £200.
Cwestiwn 7
Amcangyfrif y cyflogau ar gyfer y staff maen nhw’n eu cyflogi yw:
- Ebrill, Mai, Medi a Hydref £800;
- Mehefin £900;
- Gorffennaf ac Awst £1000;
- Tachwedd a Rhagfyr £600.
Cwestiwn 8
Maen nhw’n bwriadu gwario’r swm canlynol ar hysbysebu er mwyn denu cwsmeriaid:
- Ebrill £500;
- Mai, Gorffennaf ac Awst £100;
- Mehefin £250.
Cwestiwn 9
Ym mis Mehefin mae angen iddyn nhw dalu’r yswiriant am y flwyddyn nesaf fydd yn costio £400 iddyn nhw.
Cwestiwn 10
Mae llawer o daliadau eraill mae’n rhaid iddyn nhw eu talu, ond yn unigol mae’r rhain yn eithaf isel ac felly maen nhw wedi eu grwpio nhw gyda’i gilydd dan yr eitem ‘gorbenion’ a chyfrifo’r taliadau canlynol:
- Ebrill, Hydref Tachwedd a Rhagfyr £150;
- Mai a Medi £250;
- Mehefin, Gorffennaf ac Awst £500.
Cwestiwn 1
Cynyddu gwerthiant fel eu bod nhw’n llenwi 100% o’u lleoedd trwy’r cyfan o’r naw mis – bydd hyn yn rhoi ffigur gwerthiant o £6500 ar gyfer pob mis.
Cwestiwn 2
Cynyddu cyflogau i £1200 i ymdopi â llenwi 100% o’r lleoedd.
Cwestiwn 3
Newid stoc bob mis fel ei fod yn 20% o’r ffigur gwerthiant am bob mis.
Cwestiwn 4
Cynyddu gorbenion i £600 y mis.
Cwestiwn pellach
Awgrymiadau gwaith dilynol
Gwnewch ragor o newidiadau trwy greu eich ffigurau eich hun. Er enghraifft, beth fyddai’n digwydd yn achos y canlynol:
- mae cyfradd llenwi eu lleoedd yn gostwng i tua 50%;
- maen nhw’n gostwng cyflogau staff 20%;
- mae cost prynu stoc yn cynyddu 5%;
- maen nhw’n gostwng y swm maen nhw’n ei dynnu allan o’r busnes fel tyniadau;
- rhaid iddyn nhw brynu cyfarpar newydd fel setiau teledu ar gyfer yr ystafelloedd.
Ebrill | Mai | Mehefin | Gorffennaf | Awst | Medi | Hydref | Tachwedd | Rhagfyr | |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwerthiant | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm y derbyniadau | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Ad-daliadau morgais | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyflogau staff | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Tyniadau | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Hysbysebu | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Stoc | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Yswyriant | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Gorbenion | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Cyfanswm y taliadau | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Llif arian net | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Gweddill agoriadol | 500 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |
Gweddill terfynol | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 | 0 |