Swyddogaethau busnes

Ffynonellau addas o gyllid

Canllawiau

Darllenwch y senarios a dewiswch o’r gwymplen y ffynhonnell fwyaf priodol o gyllid ac yna rhowch reswm dros eich penderfyniad. Ar ôl i chi ystyried pob un o’r 3 senario, bydd gennych gyfle i argraffu eich nodiadau.

PDF Ffynonellau addas o gyllid – Tudalen 1

Senario 1 – Cwmni cyfyngedig preifat gafodd ei gychwyn 5 mlynedd Back yw OrganicOne. Mae’n cyflenwi prydau parod organig i siopau groser yng Ngogledd Lloegr. Mae eisiau cynyddu ei weithrediadau trwy ehangu ei ffatri bresennol ac agor uned ddosbarthu newydd yn Ne Lloegr er mwyn gwerthu ledled y wlad. Mae ganddo weddill banc iach, ond mae ganddo fenthyciad mawr gyda’r banc ar hyn o bryd. Mae’n fusnes teuluol sydd wedi datblygu perthynas ragorol gyda’i gyflenwyr.

Senario 2 – Mae Karen Hughes yn unig fasnachwr sydd wedi datblygu ei hamrywiaeth fach ei hun o bethau ymolchi. Mae hi’n gweithgynhyrchu’r rhain o uned fach ar stad ddiwydiannol ac mae hi’n gwerthu ar stondinau marchnadoedd yn bennaf. Erbyn hyn mae hi eisiau ehangu ei busnes ac agor siop adwerthu yn ei stryd fawr leol. Byddai hi’n cadw rheolaeth gyfan ar wneud penderfyniadau yn y busnes.

Senario 3 – Mae EnjoySport yn CCC sydd wedi bod yn masnachu ar strydoedd mawr y DU ers dros 20 mlynedd. Mae ganddo fwy na 200 o siopau ledled y wlad ac mae’n cyflogi mwy na 1000 o bobl. Yn y blynyddoedd diwethaf mae gwerthiant wedi gostwng ac am y tair blynedd diwethaf nid yw wedi gwneud elw. Mae angen chwistrelliad sydyn o gyllid er mwyn ailfrandio ei fusnes a chyflwyno math newydd o stoc fydd, mae’n gobeithio, yn helpu i gynyddu gwerthiant.

Ffynonellau cyllid