Canllawiau
Gwneir rhywfaint o hyfforddiant yn y gwaith; gwneir hyfforddiant arall y tu allan i'r gwaith
Ceir cryn drafodaeth ynghylch pa un sydd orau i'r busnes a'i weithwyr. Edrychwch ar y graff echelinau isod a llusgwch y datganiadau i'w lleoliad priodol ar y graff, yn eich barn chi, cyn edrych i weld a yw eich ateb yn gywir.
Anfanteision ar y swydd
Manteision ar y swydd
Anfanteision oddi ar y swydd
Manteision oddi ar y swydd
- Nid yw'r gweithwyr yn teimlo'n arbennig.
- Efallai na fydd yr hyfforddwr yn broffesiynol - gellir trosglwyddo arferion gwaith gwael.
- Gall peiriannau'r cwmni dorri.
- Math rhad o hyfforddiant yw hwn.
- Mae'r gweithwyr yn dod i adnabod eu cydweithwyr yn gynt.
- Mae'r hyfforddiant yn 'ymarferol'.
- Nid yw'r gweithwyr yn cael cyfle i gyfarfod â'u cydweithwyr.
- Math drud o hyfforddiant yw hwn.
- Nid yw mor ymarferol.
- Ni chaiff cynhyrchiant ei arafu.
- Mae hyn yn symbylu'r gweithwyr.
- Mae'r hyfforddwyr yn debygol o fod yn dda iawn - Yn aml, ceir hyfforddiant o ansawdd uwch.