Canllawiau
Ar gyfer pob un o'r dulliau hysbysebu a ddangosir, cwblhewch y tabl drwy egluro manteision ac anfanteision y dull hwnnw.
Bydd angen i chi ystyried y canlynol:
- Cost
- Y Farchnad Darged
- Cyrhaeddiad
- Effeithiolrwydd
Gallwch deipio yn y blychau a wedyn argraffu eich ymateb drwy glicio ar y botwm argraffu.
Taflenni
Manteision
Yn gymharol rad i'w gynhyrchu a'i ddosbarthu. Yn ddefnyddiol iawn ar gyfer busnesau bach a busnesau lleol sy'n awyddus i dargedu ardaloedd daearyddol penodol. Gall ddefnyddio dyluniadau lliwgar ac atyniadol er mwyn denu sylw.
Anfanteision
Caiff llawer o'r taflenni eu taflu i'r bin heb eu darllen - gwastraff arian i'r busnes. Gall taflenni mwy atyniadol, sy'n defnyddio lliw, fod yn ddrutach i'w cynhyrchu.