Canllawiau
Ar gyfer pob un o'r dulliau hysbysebu a ddangosir, cwblhewch y tabl drwy egluro manteision ac anfanteision y dull hwnnw.
Bydd angen i chi ystyried y canlynol:
- Cost
- Y Farchnad Darged
- Cyrhaeddiad
- Effeithiolrwydd
Gallwch deipio yn y blychau a wedyn argraffu eich ymateb drwy glicio ar y botwm argraffu.
Website
Manteision
Yn gymharol rad a chyrhaeddiad uchel iawn oherwydd bod gan y rhan fwyaf o gartrefi fynediad i'r rhyngrwyd erbyn hyn a'u bod yn ei ddefnyddio'n rheolaidd. Dewis da o wahanol fathau o hysbysebu - hysbysebion naid, safleoedd cyfryngau cymdeithasol, post uniongyrchol. Gall ddefnyddio sain a fideo. Gall dargedu unigolion neu grwpiau penodol.
Anfanteision
Mae llawer o bobl yn anwybyddu hysbysebu ar y rhyngrwyd gan fod cymaint ohono. Gall gael effaith negyddol ar y busnes oherwydd gellir ystyried ei fod yn niwsans - pwy sy'n edrych ar bost sothach mewn gwirionedd?