Swyddogaethau busnes

Hysbysebu

Canllawiau

Ar gyfer pob un o'r dulliau hysbysebu a ddangosir, cwblhewch y tabl drwy egluro manteision ac anfanteision y dull hwnnw.

Bydd angen i chi ystyried y canlynol:

  • Cost
  • Y Farchnad Darged
  • Cyrhaeddiad
  • Effeithiolrwydd

Gallwch deipio yn y blychau a wedyn argraffu eich ymateb drwy glicio ar y botwm argraffu.

Pauprau Cenedlaethol

Manteision

Math poblogaidd iawn o hysbysebu. Mae llawer o bapurau newydd i ddewis o'u plith. Gall dargedu'r hysbysebion at broffil darllenwyr y papur. Mae'r effaith weledol - yn aml mewn lliw yn effeithiol. Gall gynnwys llawer o wybodaeth am y cynnyrch/gwasanaeth.

Anfanteision

Yn ddrud o hyd, yn enwedig y prif bapurau newyddion tabloid. Dim defnydd o sain na fideo i ddangos y cynnyrch/gwasanaeth. Mae hysbysebion tudalen llawn mewn lliw yn ddrud iawn a dim ond busnesau mawr fydd yn gallu eu fforddio.